Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Trip o amgylch y byd
Ebrill 2004
Pan ddechreuodd y sôn am fynd 'rownd y byd', a ninnau yn y coleg yn Aber, mae'n debyg mai ryw freuddwyd fyddai hi am byth. Ond buan iawn y daeth mwy o ddiddordeb i wireddu'r freuddwyd honno.
Ac roedd mynd i drafeilio, a chymryd blwyddyn allan wedi graddio, yn llawer mwy apelgar na nifer o bethau eraill!

Wedi i chwech ohonom (Bethan, Delyth, Anna a Annes o Borthmadog, Ceri Wyn o Lanllyfni a minnau) fod yn gytun a'r trefniadau, bwcio wnaethom i adael Cymru fach ar y trydydd o Dachwedd 2003.

Teimladau digon cymysg oedd gennyf yn gadael Cymru, wrth ffarwelio a theulu a ffrindiau, gydag ond un bag yn cynnwys fy holl eiddo am saith mis bron. Roedd cyffro a hiraeth yn un cymysgfa o deimladau, ond buan iawn yr anghofiais wrth gamu ar yr awyren yn Heathrow a theithio tuag at Gwlad Thai!

Yr oedd bobl Thai yn annwyl iawn a chawsom andros o groeso. Arhosom mewn gwesty yn Bangkok am y dyddiau cyntaf, gan geisio dod i adnabod ychydig o'r ddinas. Y ffordd orau i fynd o gwmpas oedd y "Tuk Tuk's." Y mae pobl yn disgrifio'r cerbydau tair olwyn yma fel cerbydau sydd yn "troi i'r dde, troi i'r chwith a throi drosodd," yn ffodus fe lwyddon ni i osgoi hynny, er i ni gael ambell i ddihangfa!

Yr oedd Bangkok yn le prysur a llygredig iawn, a buan iawn y cawsom ddigon o hynny, gan symud ymlaen ar ôl 'chydig ddiwrnodau i bentref bach distaw o'r enw "Hua Hing" oedd tua dwy awr i'r de o'r ddinas. Yr oedd y tywydd yn fendigedig yma, ac fe arhosom mewn caban ar lan y môr. Cawsom fodd i fyw, yn enwedig pan aethom i reidio eliffantod. Yr oedd dwy yn cael reidio ar gefn pob un, a rhaid dringo ysgol i gyrraedd cefn yr eliffantod 60 mlwydd oed - ia dwi'n gwbod, cefais innau sioc gan obeithio i'r nefoedd fod yr hen greadur ddim yn mynd i ddisgyn yn farw a ninnau ar ei gefn! Ond buan iawn y daeth y creadur i arfer gyda ni a cawsom ninnau ei yrru o gwmpas, gan ei ddreifio trwy daro ei glustiau nôl a mlaen hefo'n traed!

Wrth adael Bangkok am Awstralia, wythnos yn ddiweddarach, roeddwn yn falch iawn ein bod ni wedi bod yn Wlad Thai ac wedi gweld agweddau gwahanol iawn ar ddiwylliant.

Yr oedd Awstralia yn wlad tipyn gwahanol, fel yr oeddem yn ei ddisgwyl, a'r tywydd yn boeth ofnadwy pan wnaethom lanio yn Alice Springs, sydd yn nhiriogaeth gogleddol y wlad. Yr oedd rhaid ymweld â'r mynydd enwog gerllaw sef "Ayers Rock" neu'r "Uluru" i'r Aborojini, sydd bellach yn berchnogion ar y mynydd ar ôl cwffio amdano gan y llywodraeth.

Dysgais lawer am ddiwylliant yr Aborijini a phwysigrwydd yr Uluru iddynt, yn wir maent yn erbyn i bobl ei ddringo oherwydd ei fod yn dir Sanctaidd (er bod llwybr dringo wedi ei lunio gan y Parc Cenedlaethol a thros filiwn o bobl yn dringo i'w gopa pob blwyddyn). Os oes damwain angeuol yn digwydd ar y mynydd mae'r Aborijinis yn galaru am wythnosau gan feio eu hunain am y digwyddiad.

O un saith rhyfeddod naturiol y byd i un arall o fewn wythnos sef y Great Barrier Reef, sydd ar arfordir dwyreiniol y wlad. Trip diwrnod ar gwch o Cairns gawson ni i fynd i weld y natur yma ar waith, a thrafeilio rhyw dair awr ar hyd y môr hynod o glir nes cyrraedd un darn arbennig ohono. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn gwybod beth i ddisgwyl o dan y dŵr, ond unwaith y rhoesom y gogyls a'r gêr snorclo ymlaen, buan iawn y daeth yr ateb reit i'r wyneb wrth ddeifio o dan y dŵr a gweld pysgod o bob maint a lliw, a chregyn o bob math. Mae'n anodd egluro'r wefr arbennig.

Anodd iawn hefyd yw i geisio rhoi i lawr mewn cyn lleied o eiriau fy anturiaethau dros y 5 mis diwethaf. Cam nesaf y daith oedd allan o awyren!! le mae'n siwr eich bod chi i gyd yn meddwl beth ddaeth drosta i i wneud peth mor hurt, ond mi ellai eich sicrhau chi y byddwn yn ei wneud eto fory nesa'! Wrth gwrs mi oedd na neidiwr profiadol a pharashwt yn cael ei lechio mewn yn y pris hefyd, ar cyfan i wneud yr hyn a elwir yn Tandem Sky Dive, er na chefais fawr o ymarfer cyn cychwyn. Doeddwn i ddim yn teimlo'n nerfus o gwbl tan i mi sefyll yn nrws yr awyren oedd 12,000 o droedfeddi uwchben y ddaear, ac yn barod i neidio! Wedi i'r dyn camera (oes mae gen i fidio i brofi'r antur!) fynd i hongian ar aden yr awyren, doedd dim amdani ond neidio allan a mwynhau y munud nesaf o syrthio trwy'r cymylau heb unrhyw fath o barashwt ar 130 milltir yr awr! Wedi i'r parashwt agor a'r clustiau orffen popio, cefais gyfle i fwynhau'r olygfa grêt o ardal Mission Beach. Profiad gwych a bythgofiadwy.

Trafeiliais arfordir dwyreiniol Awstralia yng nghwmni amryw o backpackers eraill, gan deithio ar fws yr Oz Experience, a mi oedd yn dipyn o brofiad hefyd coeliwch!! Pawb yn gweiddi, siarad a chanu dros y lle a'r dreifar mor wirion a ni! Cyfle arbennig i gyfarfod bobl a gwneud ffrindiau o wahanol gwr o'r byd, mi oedd yn werth chweil.

Cymerodd rhyw fis i ni drafeilio'r rhan fwyaf o'r arfordir (mae hi'n wlad anferthol) ac yn y cyfnod hwnnw, cawsom gyfle i aros mewn nifer o lefydd yn cynnwys ffarm wartheg, neu cattle stations fel mae'r brodorion yn eu galw. Tebyg i ffermydd fel y gwyddom ni ond fod un gwahaniaeth bach, ei bod hi'n 30,000 o aceri ac yn cynnwys 4000 o wartheg. Dingo's oedd enw'r orsaf, a cawsom groeso mawr gan y cowbois fu'n ceisio ein dysgu i chwipio rw chwip anferth yr oedden nhw yn ei defnyddio i hel gwartheg ar gefn eu ceffylau, ac hefyd yn ein dysgu mwy am gefndir y gwartheg oedd wedi eu magu ar gyfer tywydd sych y wlad ac yn gallu geni llo bach wrth eu hunain heb drafferth clywch, clywch!

Gorffennom ein taith ar yr "Oz" yn Sydney erbyn y 'Dolig, a chael gorffwys am rhyw 'chydig! Yma bu i ni gyfarfod nifer o Gymry eraill o Rhuthun, Nantglyn, Bala, Caerdydd ynghyd â Gareth Llwyn Goronwy, a Dewi Marc Pen Isa, Llangernyw. Treuliais y 'Dolig yng nghwmni 12,000 o bobol eraill ar draeth Bondi, oedd fel minnau, heb mam i wneud cinio twrci mawr i mi. Bodloni ar frechdanau twrci ar lan y môr mewn tymheredd o 40 gradd wnaethom ni.

Rhywbeth yn debyg oedd hi dros y flwyddyn newydd. Gan fod y tân gwyllt enwog yn cymryd lle ar y bont enwog yn yr harbwr, cychwynsom yn fuan tuag at y bont i osod ein stondin, ynghanol miloedd o bobl eraill, gan fwynhau yr adloniant ar arddangosfa dân gwyllt arbennig am hanner nos.

Gadewais Awstralia am Seland Newydd ar Ionawr y 5ed. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n gwbod beth i'w ddisgwyl wrth lanio yn Queenstown chwaith, sydd yn ynys y de. Buan iawn y penderfynais fy mod i'n teimlo'n fwy cartrefol yma, yn enwedig wrth weld y golygfeydd godidog mor debyg i wlad y gân. Symud yn syth bron o Queenstown i Invercargill sydd reit yn waelod ynys y de. Yno mae Rhys Plas Padog a'i ddarpar wraig KelIy yn byw. Cefais groeso mawr ganddynt, a setlo yn fanno wnes i wedyn am rw dair wythnos. Yn y cyfnod hwnnw bues yn gweithio i gwmni "Spain and Smith," sef contractwyr cneifio lleol, a cheisio ennill ychydig o bres wrth lapio gwlân i ail gychwyn ar fy nhaith

Wrth deithio o amgylch Seland Newydd daethom ar draws nifer o Gymry, ambell un o ardal yr Odyn fel Nia Lloyd Dugoed, Penmachno, Gwenan Plas Iolyn, Pentre, Alwen Eidda a Ffion 'Foty Gwyn. Bues mewn ambell i gystadleuaeth cneifio tra yn y wlad, maent yn achlysuron mawr yno gyda channoedd o gneifwyr a lapwyr gwlân yn cystadlu - ambelI i Gymro yn ei mysg hefyd.

Nid oeddwn yn ddigon mentrus i wneud naid bynji hefyd, yr oedd y naid awyren yn hen ddigon i mi, er hynny cymerais ran mewn gweithgareddau eraill megis y shotover jet yn Queenstown, lle roedd angen digon o fôn braich i afael yn dynn rhag i chi daro'ch pen yn y graig gerllaw, neu ddisgyn mewn i'r dŵr oer! Bum hefyd yn rowlio lawr allt mewn pêl anferth yn Rotorua.

Mawrth y 10fed roedd hi'n amser symud ymlaen eto i gyfeiriad yr Unol Daleithiau. Gwlad fawr, adeiladau mawr, ceir mawr a bobol mawr!! Does na ddim sydd yn fach yma! Glanio yn Los Angeles sydd ar yr arfordir gorllewinol, cyfle i weld yr arwydd Hollywood enwog, cerdded ar hyd y sêr ar y palmant ar Hollywood Boulevard sef yr enwog "walk of fame."

Symud wedyn i Las Vegas, sydd wirioneddol yng nghanol yr anialwch, ond yn ddinas sydd yn tyfu'n ddyddiol, gyda chyn gymaint â phum mil o bobol yn symud i'r ddinas yn fisol. Lle twristiaeth go iawn oedd hwn, gyda nifer o atyniadau amrywiol fel y goleuadau mawr fin nos, y tŵr enwog ac wrth gwrs y brif atynfa y casinos. I'r rhai ohonoch sydd wedi gweld y ffilm Ocean's Eleven, lle mae 11 o bobol yn llwyddo i dorri i mewn i'r casino Bellagio gan ddwyn miliynau. Wel mi oedd na saith ohona ni, am wnaeth un ohonom ennill un doler!! Ta waeth am hynny, symud wedyn at un arall o ryfeddodau'r byd sef y Grand Canyon. Am y tro cyntaf ers amser maith yr oeddwn heb ddim i'w ddweud, yr oeddwn yn wirioneddol geg agored. Doedd dim angen dim perswâd arnai i hedfan mewn hofrennydd dros y Canyon, sydd yn 277 o filltiroedd o hyd a 18 milltir o led. Profiad ffantastig!

Y stop nesaf oedd San Ffransisco. Ni allem adael fama heb ymweld â'r carchar enwog Alcatraz. Cawsom amryw o hanesion gan y wardeniaid, ynghyd ac ambell i gyn garcharor hefyd, a chyfle i weld y celloedd moethus!!

Dyma fi bellach wedi gadael San Ffransisco ac wedi cyrraedd Seattle. Mae hi'n ddiwedd Mawrth bellach a mae hi'n anodd credu fod bron i bum mis ers i mi adael Cymru fach. Anodd iawn ydy hi wedi bod i mi ysgrifennu am fy holi anturiaethau, a cheisio esbonio i chwi gymaint yr ydw i wedi, ac yn mwynhau. Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r profiad o ddod o amgylch y byd gyda mi, a gobeithiaf gael y cyfle i rannu ychydig o hanesion am Ganada, gan mai yno mae'r stop nesaf. Welwn i chi yn mis Mai.

Hwyl am y tro
Siwan Tai Duon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý