Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Accra, Ghana Ymweliad â Ghana
Tachwedd 2004
Cyndyn oeddwn i dderbyn y gwahoddiad i fynd gyda Dewi ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i'r pedwerydd cyfarfyddiad ar hugain o Gynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd, (Word Alliance of Reformed Churches -WARC).

Pryd mae e? oedd y cwestiwn cyntaf -Gorffennaf2 8 - Awst 14eg. Colli'r Steddfod! Dim ots, medde chi, ond roedd Elin y ferch hynaf wedi bod yn gweithio'n ddygn gyda phobl ardal Casnewydd yn paratoi ar ein cyfer. Mynd i Affrica? Roedd yn daith bell a minne heb gael profiadau da o deithio pellterau mewn awyren.

Gwylie braf medd rhai! Gwyliau, na! Profiad unigryw, dwedodd Dewi. Ie, gwir pob gair. Pythefnos o waith caled, addoli, astudio'r Beibl a thrafod pynciau hanfodol i fod yr Eglwys yn y byd.

Amhosibl cyfleu mewn ychydig ofod yr oll a ddigwyddodd ond soniaf am un profiad - sef y cyfle i fynd allan o Ganolfan y Cyngor a gynhaliwyd ym mhrifysgol Accra yn Ghana dros y Sul i gydaddoli gyda'r trigolion lleol.

Gweddi cyn cychwyn ar y daith, ac roedd ei hangen hefyd gyda'r ffyrdd troellog, tyllog a pheryglus mewn mannau. Teithio drwy drefi a gweld tlodi dychrynllyd. Anghofiwyd am y daith yn fuan oherwydd y croeso twymgalon a dderbyniom.

Roedd eglwysi Ghana wedi bod wrthi yn paratoi ar gyfer y Cyfarfod yma ers tair blynedd ac wedi bod wrthi yn ymarfer caneuon a threfnu'r holl ymweliadau. Tipyn o gamp oedd dosbarthu rhyw bump i chwe chant o gynadleddwyr a'u cludo ar hyd a lled y wlad. Cyrhaeddom y ganolfan yn Abetiffi a chael ein rhoi yng ngofal gweinidogion o'r gwahanol eglwysi - ni'n dau yn mynd gyda'r Parch Kissi i bentref ar ben mynydd - y man uchaf yn Ghana lle mae pobl yn byw - pentref o'r enw Obo.

Gan ein bod ar dir uchel roedd yn dipyn llai twym nag yn Accra a dyna'r unig dro i ni weld glaw yn ystod y pythefnos. Roedd y tyfiant yn gyfoethog ac yn brydferth iawn.Aethom i gartref y gweinidog - Mission House, cael ein gadael am ddwy awr i orffwys mewn stafell - dim ond gwely a matras yno. Yna cael ein cyrchu i gael bwyd a merch ifanc yn gweini arnom ni a'r gweinidog ac un o'r blaenoriaid.

Rwy'n siŵr fod holl lestri'r tŷ ar y bwrdd yn bentwr taclus yn y cornel. Doedd dim cwpwrdd, dim ond bwrdd. Yna dywedwyd wrthym fod pobl yr eglwys wedi penderfynu ein symud i aros gyda'r pen blaenor - dwi'n credu taw oherwydd mai merch oeddwn y gwnaed y penderfyniad. "Mae dŵr gyda nhw" oedd y frawddeg dyngedfennol.

Cyrraedd yno a chroeso mawr - y wraig oedd y Brifathrawes ar ysgol leol i ffwrdd dros nos a'r gŵr yn gofalu amdanom. Byw syml a dweud y lleiaf. Deall trannoeth bod tua 300 o blant yn yr ysgol lle roedd y wraig yn brifathrawes, plant yn gorfod talu am eu haddysg , un llyfr testun rhwng pedwar a phrinder mawr o lyfrau.

Mynd i'r capel erbyn 9 yn y bore. Roedden ni'n cael ein casglu i ddychwelyd i Accra am 12.30 felly roedden nhw wedi penderfynu cwtogi ychydig ar eu cwrdd y bore hwnnw. Cawsom eistedd fel dau frenin a brenhines yn y blaen yn wynebu'r gynulleidfa. Dyma olygfa, capel mawr, ychydig o oriel - dim set fawr - y cyfan yn agored ac yn eithaf di-liw nes bod y bobl yn dod. Côr wedi eu gwisgo mewn cap a gwn ar y chwith i ni a grŵp o fenywod hŷn, côr arall ar y dde. Y gynulleidfa - tua deugain ar ddechrau'r cwrdd ond yn ddiweddarach tua roedd yno dros gant a hanner.

Roedd yr amrywiaeth yn y gwasanaeth yn drawiadol nid band un dyn oedd yna fel sy'n gyfarwydd i ni. Canu brwd i ddechrau - dim organ na phiano - dim ond drwm. Un o'r blaenoriaid yn llywyddu'r oedfa a'r aelodau yn darllen - tri darlleniad yn ystod y cwrdd, rheiny wedi'u hysgrifennu ar fwrdd du ar y wal.

Twi oedd iaith frodorol yr ardal, pregethodd Delvi gyda'r Parchedig Kissi yn cyfieithu o'r Saesneg ar thema'r Gynghrair yr adnod o Ioan 10 "llawnder bywyd i bawb" Cefais innau gyfle i ganu emyn Cymraeg.

Canu a dawnsio yn ystod y gwasanaeth. Roedd yn arbennig wrth gyflwyno'r casgliad. Gosodwyd blychau yn y canol - dau, un i'r merched ac un i'r dynion. Yna pan oedd yn amser casglu byddai pawb yn mynd o'i sedd ac yn mynd i gefn y capel a dawnsio lawr yr ale ganol i roi'r casgliad. Y bore hwnnw roedd na dri chasgliad - un ar gyfer yr eglwys, un oherwydd ei bod yn Wythnos Iechyd Genedlaethol yn y wlad a un arall ar gyfer cleifion y capel.

Ar ddiwedd y cwrdd roeddent yn cyhoeddi beth oedd cyfanswm pob casgliad - y merched a'r dynion ar wahân. Anghofia'i byth mo'r wên o lawenydd oedd ar eu wynebau wrth offrymu'r casgliad. Cawsom gyfle i rannu rhoddion, calendr ag adnod ar gyfer pob dydd arno i'r Mans ac i'r cartref a bag Cymru a chwpan â'r cwlwm Celtaidd arno i'r eglwys, y cyfan o Fyd y Siopwr, Rhydaman. Cawsom ninnau lun bach o'r capel a thŷ'r gweinidog i'w gadw. Mae'n debyg pe baem yn dychwelyd ymhen pum mlynedd neu fwy, mwy na thebyg y byddai'r calendr yn dal ar y wal, er mwyn y llun. Efallai bod hynny yn egluro'r rhes o ddarluniau oedd yn hongian ar dop y wal yng nghartref ein gwestai - yn rhy bell i fyny i ni allu gweld yr un ohonynt!

Dyma ninnau yn addoli gyda rhan arall o deulu Duw, teulu a fydd gyda ni weddill ein dyddiau. Ninnau yno o wlad gyfoethog, faterol y Gorllewin, a hwythau o ganol eu tlodi yn esiampl i ni o lawenydd.

Gan bwy mae llawnder bywyd, ni yn ein cyfoeth a'n diflastod yn aml, neu nhw yn eu tlodi llwm a chyda gwên a dawns mor aml? Mae gennym lawer i'w roi a llawer i'w dderbyn!

Annette Hughes


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý