Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Agor Canolfan Gymunedol Brynaman Canolfan newydd i'r Mynydd Du
Gorffennaf 2009
Mae Canolfan Gymunedol Brynaman wedi cael ei hagor ar ei newydd wedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain.

Ar fore Gwener, 19 Mehefin, cafwyd lawnsiad Canolfan Gymunedol Brynaman dan ei enw newydd - Canolfan y Mynydd Du.

Croesawyd pawb i'r achlysur gan Mair Thomas, Is-gadeirydd y Ganolfan.

Yna daeth Mark James, Prif Weithredwr Sir Gaerfyrddin, i gyhoeddi agoriad swyddogol y ganolfan.

Cafwyd hanes datblygiad y Ganolfan o fod yn Ysgol y Babanod, Brynaman i fod yn ganolfan fywiog ac amlochrog heddiw, gan y cyn-gadeirydd Alun Howells, ac yna gair gan y Gwir Anrhydeddus Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Daeth y Swyddog Datblygu, Siân Tucker wedyn i rannu ei gweledigaeth hi am y dyfodol a'r ddarpariaeth bellach all y Ganolfan ei chynnig i bobl y cylch.

Da oedd cael cwmni Adam Price, Aelod Seneddol ac hefyd Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ynghyd â chynrychiolwyr o'r noddwyr, cynghorau a chyrff lleol.

Diolchwyd i bawb a wnaeth gyfraniad mewn arian neu amser i'r prosiect, o'i ddechrau dan ofal Susan Harries, hyd heddiw dan y staff presennol gan Mair.

Yna, gwahoddwyd pawb i fwynhau'r lluniaeth blasus oedd wedi ei ddarparu gan y bwyty ar eu cyfer.

Roedd y lle yn edrych yn lliwgar iawn gyda'r baneri a'r balwns a'r logo newydd gyda'r M fawr am Mynydd ac am Mountain.

Cyrsiau newydd i ddechrau yn y Ganolfan ym mis Medi:

• Cwrs Gradd Rhan Amser

• Helpu'ch plant i ddysgu

• Rhannu sgiliau

• Sgiliau Craidd - Magu Hyder

Hefyd mae grwp Cyfeillion Ganolfan y Mynydd Du wedi ei sefydlu ar gyfer gwirfoddolwyr a Grwp Cerdded ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n ffit neu am deimlo'n ffitach!

Cysylltwch â Sian neu Nerys am wybodaeth bellach am unrhyw un o'r rhain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý