Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Côr Meibion Llandybie Hanes Côr Meibion Llandybie
Rhagfyr 2003
Mae Llandybie yn un o bentrefi mwyaf Cymru, wedi ei leoli ar ymylon y maes glo caled ac yn cynnwys un o chwareli calchfaen mwyaf Ewrop. Ffurfiwyd Côr Meibion Llandybie yn 1908 ac roedd yn un o gorau meibion cyntaf Sir Gaerfyrddin.

Ar y dechrau cyflogwyd mwyafrif aelodau'r côr gan gwmnïau calchfaen lleol neu'r pyllau glo. Erbyn hyn mae aelodau'r côr yn cynrychioli pob proffesiwn, yn cynnwys cyfrifyddion, gweithwyr banc, peirianyddion, swyddogion yr heddlu, athrawon, ac yn y blaen.

Mae'r côr wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau pwysig ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac wedi ennill gwobr gyntaf sawl gwaith. Mae Côr Meibion Llandybie wedi cael llwyddiant yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Aberteifi, Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

Ers ei sefydlu mae'r côr wedi codi arian i elusennau yn gyson ac erbyn hyn mae'r cyfanswm yn gannoedd o filoedd o bunnoedd.

Er i'r côr fod mewn bodolaeth am gyfnod hir, dim ond chwech o gyfarwyddwyr cerdd fu'n ei arwain. Roedd y tri cyfarwyddwr cyntaf yn aelodau o'r un teulu, sef Mr Evan Thomas, yr arweinydd, a sefydlodd y côr, a'i ddau fab, Arthur Thomas gyntaf ac yna Mr Curwen Thomas. Bu farw Mr Curwen Thomas ym 1973, a daeth Mr Ieuan Anthony i gymryd ei le. Bu'n arweinydd tan 1976 ac yna am gyfnod o ddwy flynedd ar bymtheg bu Mrs Indeg Thomas yn arweinydd. Yn 1993 daeth Mr David B. Jones yn arweinydd.


Mrs Gloria Lloyd, cyfeilyddes
Mrs Gloria Lloyd, cyfeilyddes
Pan oedd y Parchedig John Talfryn Jones yn gadeirydd pwyllgor Glo Mân roedd Côr Llandybie, gyda'i frawd yn arweinydd, wedi addo gwneud cyngerdd i helpu'r achos. Ni chafwyd cyngerdd yn ystod y cyfnod hwnnw ond manteisiwyd ar ei barodrwydd i ddod i ganu wrth inni drefnu Cyngerdd Dathlu Glo Mân yn chwarter canrif.

Diolch i'r côr ac i'w cyfeilyddes Mrs Gloria Lloyd am eu cyfraniad i'r noson lwyddiannus honno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý