Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Stephen Nicholas Cysylltiad Doctor Who â Llandybie
Mawrth 2005
Ydych chi'n cofio'r tro cyntaf i chwi godi'ch dwylo ar draws eich llygaid oherwydd dychryn wrth i chi weld rhywbeth a gododd ofn arnoch chi?

I lawer sydd yn awr o oedran arbennig yr oedd gweld Daleks a'u sgrech "Ex-terminate! Ex-terminate! You will be Exterminated!" neu "Difod-wch!difodwch! fe gewch eich difodi!" yn ddigon i achosi dyn i hedfan tu ôl i'r soffa.

Dechreuodd Doctor Who a'i anturiaethau bron ddeugain mlynedd yn ôl a chyn bo hir (nos Sadwrn Mawrth 26) bydd cyfres newydd yn dechrau ar Â鶹ԼÅÄ1. Dywedir bod y setiau a'r C.G.I (graffics cyfrifiadurol) yn mynd i fod yn agoriad llygad. Edrychir ymlaen yn eiddgar am y gyfres.

Ond beth yw cysylltiad Doctor Who a'r Daleks â Llandybie?Arolygwr a Chyfarwyddwr Celf y gyfres newydd yw Stephen Nicholas, Llandybie (mab Chris a Judith Nicholas, Stryd Fawr.) Ffilmiwyd llawer o'r gyfres mewn lleoliadau yn Ne Cymru, yn Abertawe, Casnewydd a Threfynwy.

Tardis y gyfres newydd o Doctor Who yn y Â鶹ԼÅÄGyda Edward Thomas, cynhyrchydd Dylunio, cyfrifoldeb Stephen yw goruchwylio dros 300 o bobl mewn nifer o adrannau e.e celf, dylunio graffics, cynllunwyr ac adeiladwyr y setiau a'r props. Gwaith Stephen yn ddyddiol yw paratoi y setiau, cydraddoli gwneuthuriad y setiau, cydweithio gyda'r adrannau i sicrhau bod y goleuadau, y sŵn, effeithiau arbennig, graffics cyfrifiadurol, y gwisgoedd a'r coluro i gyd yn iawn. Mae'n gweithio o fore tan nos. Felly, Stephen yw un o ddynion allweddol y cynhyrchiad.

Dechreuodd ei yrfa fel saer wrth gynllunio ac adeiladu set Heno yn stiwdio Agenda yn Llanelli. Yna aeth ymlaen i weithio ar nifer o ffilmiau a dramâu teledu yn Ne Affrica, Rwmania ac Ynys Manaw - ond heb os nac oni bai dyma'r sialens a'r cyfrifoldeb mwyaf i Stephen. Llongyfarchiadau a phob lwc iddo. Cofiwch wylio'r gyfres!

Cynhyrchydd/ Ysgrifennydd y gyfres yw Russel T. Davies (o Abertawe yn wreiddiol) a Julie Gardner (Pennaeth Drama Â鶹ԼÅÄ Cymru.)

Mi fydd y gyfres newydd o Doctor Who yn cychwyn ar Â鶹ԼÅÄ1 ar nos Sadwrn, Mawrth 26 am 7pm.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý