Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Alex Roach Tre'r Sêr
Mawrth 2003
Mae'n debyg mai pobol Rhydaman yw sêr y sgrîn fach a'r sgîn fawr y dyddie ma. Mae actores ifanc orau operau sebon Prydain, ac un o ddynion mwyaf golygus Cymru yn byw yn Ffordd Talbot ..
Mae hen stejar o'r dre yn swyno cynulleidfaoedd mewn sinemâu o Frynaman i LA hefyd. Oes, mae na sêr yn gwenu yn Rhydaman y dyddiau ma.

Fe gafodd Alex Roach anrheg Nadolig hwyr eleni, ar ffurf gwahoddiad i barti crand yn Park Lane, Llundain. Roedd Alex wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Adloniant Plant, ac fe gipiodd y wobr am yr actor / actores orau mewn opera sebon, am ei rhan fel Elin yn Pobol y Cwm.

Efallai mai'r peth pwysicaf i ddweud am hyn yw ei bod hi wedi maeddu Stephen Beale (mab Ian Beale) o Eastenders!

"O'n i ddim yn gallu credu fe, o'n i jyst mewn sioc, o'n i'n crynu a ddim yn gallu credu beth o'dd yn digwydd," meddai Alex, sy'n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.

Y gyflwynwraig Denise Van Outen oedd yn cyflwyno'r gwobrau, ac fe alwodd hi Alex i'r llwyfan i dderbyn ei gwobr o flaen cynulleidfa o gannoedd.

"Y peth cyntaf wedodd hi wrtha i oedd bod hi'n lico'r top o'n i'n gwisgo!" meddai Alex, wedi'i chynhyrfu'n lân. Fe adawodd, hi'r llwyfan y noson honno gyda thlws gwydr pert yn ei llaw, un sydd erbyn hyn yn sefyll yn dwt ar gelficyn yn lolfa'r teulu yn Rhydaman. Ond mae un peth wedi siomi Alex, fe wnaethon nhw sillafu'r sebon yn anghywir - 'Pobal y Cwm'!

Alex wedi dal y byg
Ydi, mae Alex wedi cael ei brathu gan y byg nawr, ac yn gobeithio bod mwy o waith actio a phartïon crand ar y gorwel. Ar hyn o bryd, mae'n astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU, ond ei gobaith yw mynd ymlaen i astudio drama yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, neu hyd yn oed i Lundain.
"Fi'n moyn cario 'mlaen i actio yn y dyfodol" meddai. "Fy mreuddwyd i fyddai actio mewn ffilm gyda Catherine Zeta Jones. Gewn ni weld!"


Owain Wyn Evans
Owain Wyn Evans
Owain - hync newydd Ffeil!
Gyferbyn â chartref Alex, mae 'na ddyn ifanc o'r enw Owain Wyn Evans yn byw, a oedd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae e bellach wedi gadael ers blwyddyn ac erbyn hyn yn gyfarwydd iawn â'r M4, gan ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd.

Swydd newydd, a swydd gyntaf Owain yw gohebu ar y rhaglen newyddion i bobol ifanc, Ffeil, sy'n cael ei darlledu ar S4C, ac wrth siarad ag ef yn ei gartref, mae'n amlwg ei fod wrth ei fodd.

"Fi wastad wedi moy'n gweithio ar y teledu," meddai Owain, "ond o'n i byth yn meddwl bydden i'n cael y cyfle i wneud e mor ifanc. Fi ffili credu fe, fi'n mwynhau e gymaint, mae e fel byw breuddwyd," meddai.

Prin ddeufis sydd ers i Owain ddechrau yn ei swydd newydd ac mae eisoes wedi dechrau cyflwyno eitemau newyddion o bob cwr o Gymru.

Un o hyncs mwya' Cymru
Hefyd, nid yn unig ei fod e'n wyneb newydd ar y bocs, ond mae wedi cael ei enwi'n un o fois mwyaf golygus Cymru. Welsoch chi dudalen ganol y papur dydd Sul Wales on Sunday ar Fawrth yr ail? Roedd wyneb Owain yno yn rhif 31.

"O'n i'n eitha chuffed bo fi uwchben bois One True Voice!" meddai Owain wrth chwerthin. "O'n nhw wedi ffonio fi yn yr wythnos i ddweud bo fi yn y 50 uchaf, ond doedd dim syniad da fi pa rif o'n i. Fi ffili credu fe, mae e'n bach o sbri ond yw e!" Ferched, cadwch lygad ar y boi ma!

Enwog o ddyffryn Aman i ddyffryn Silicon
O ddau wyneb ifanc, newydd, i un hynach a phrofiadol. Ydych chi wedi gweld camp ddiweddara'r hen stêjar o Rydaman, John Rhys Davies ar y sgrîn fawr? Lord of the Rings - The Two Towers yw un o ffilmiau mwya'r sinema eleni, ac mae'r dyn o Rydaman yn actio rhan y corach Gimli, ynddi.

Ydyn, ry'n ni wedi gallu brolio bod un o fois ein cwm ni wedi serennu mewn sawl ffilm fawr erbyn hyn, gyda Raiders of the Lost Ark ac Indiana Jones and the Last Crusade yn ddwy ffefryn.

O ganlyniad, mae ei enw'n adabyddus o Ddyffryn Aman i Ddyffryn Silicon, a'i hanes wedi cyrraedd pedwar ban byd. Ond ar ôl chwilio am wybodaeth amdano, dwi wedi dod o hyd i ambell beth diddorol, heblaw am y ffaith bod ei fam yn dod o Rydaman, a'i fod e'n casglu hen geir a bod ganddo drwydded hedfan.

Mae John Rhys-Davies yn 6 troedfedd o daldra, felly gan fod y cymeriad, Gimli, yr oedd yn ei actio, yn gorach 4'2", roedd rhaid iddo wneud y rhan ar ei ben-gliniau.
Roedd y dillad roedd e'n eu gwisgo yn The Two Towers yn pwyso dros 40 kg (er mai dim ond corach oedd e!) ac roedd yn rhaid i ddau berson ei helpu i'w gwisgo.
Byddai hi'n cymryd pump awr iddo gael ei goluro ar gyfer TheTwo Towers.
Tra'n gweithio ar ei ffilm ddiweddaraf LaFemme Muskateer yn Croatia, fe syrthiodd wal 12 troedfedd o uchder arno. 0 ganlyniad, fe dorrodd ei fraich, a bu'n rhaid i 30 o ddynion symud y cerrig a oedd wedi cwympo er mwyn ei ryddhau.
Bu'n rhaid iddo fynd i noson agoriadol The Two Towers mewn sling!

Cerys Bowen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý