Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Fflur Wyn Seren Jephtha
Ebrill 2006
Wedi bod ar daith gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio yn Jephtha, bydd Fflur Wyn o ddyffryn Aman yn perfformio yn Theatr y Grand Abertawe ym mis Ebrill.
Tra'n gwneud ei debut gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru sdim dwywaith amdani - Fflur Wyn oedd seren y noson. Perfformiwyd Jephtha gan Handel, nid opera draddodiadol ond oratorio mewn gwisgoedd.

Cymeriad o Lyfr y Barnwyr yn yr Hen Destament yw Jephtha, ac fe'i ddewiswyd gan yr Israeliaid i'w harwain yn y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Mae Jephtha yn tyngu, os bydd iddo lwyddo, y bydd yn aberthu'r creadur byw cyntaf y daw ar ei draws ar ôl dychwelyd. Pan ddaw Jephtha adref o'i goncwest, yn anffodus iddo fe, ei unig ferch, Iphis sy'n ei groesawu. Mae Jephthayn cyfaddef y llw a dyngodd cyn mynd i'r frwydr, ac wrth reswm mae'r gymuned gyfan yn arswydo wrth feddwl am aberth greulon Iphis.

Ond, diolch i'r drefn, daw angel i lawr o'r nef i ryddhau Iphis o'i dedfryd, ond mae'n mynnu y dylai hi dreulio gweddill ei hoes yn ddiwair. A rhan y ferch Iphis a bortreadwyd mor ddeheuig gan Fflur.

Hon oedd oratorio olaf Handel a thra'n ei chyfansoddi dirywiodd ei iechyd. Effeithiodd ei ddallineb ar waith y cyfansoddwr, ond llwyddodd i adennill digon o'i olwg i allu gorffen y cyfansoddiad. Fe gafodd yr oratorio ei pherfformio am y tro cyntaf yn Covent Garden ym 1752.

Mae llais y ferch ifanc o Frynaman yn gweddu i'r dim i gerddoriaeth Handel, a chafwyd perfformiad hynod o sensitif ganddi ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Swynwyd y gynulleidfa gan ei llais pur a'i dehongliad o'r ferch ifanc Iphis. Yn ddi¬-os hi dderbyniodd y gymeradwyaeth fwya' gyda llawer yn dweud brysied y dydd y bydd yn ôl gyda'r cwmni.

Mae'r cynhyrchiad wedi ei osod yng nghyfnod yr ail ryfel byd yn hytrach na'r Hen Destament. Bydd Jephtha yn mynd ar daith i Birmingham, Briste, Milton Keynes a Lerpwl, ond y perfformiad olaf yn Theatr y Grand Abertawe ar 12 Ebrill.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý