Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Ddoe - David Davies yn gwylio gweithwyr yn rhoi plwm newydd uwchben ffenest y siop. Perchnogion newydd i siop y pentref
Ionawr 2003
Mae yna hanes diddorol i hen siop bentref Brynaman, ac mae iddi berchnogion newydd erbyn hyn all ddweud stori neu ddwy hefyd ...
Yn y llun yma gwelir siop sy'n gyfarwydd iawn nid yn unig i bobl Brynaman ond i'r holl bobl ar hyd a lled y Cwm a fu'n mynd i'rsinema gyfagos gan mai i'r siop hon y byddai llawer yn mynd i brynu losin - er mwyn cael rhywbeth i'w gnoi wrth wylio'r ffilm!

Or siop hon, hefyd, y cafodd llawer o blant Brynaman (sydd erbyn hyn yn ganol oed a thipyn yn hyn na hynny) ei beiciau a fyddai'n cael eu harddangos lan ar y llawr uchaf.

Does dim syndod bod gan bobl leol o bob oed eu hatgofion am y lle gan iddi fod yn rhan o fywyd y pentref am gymaint o flynyddoedd. Bu yn nwylo'r un teulu o 1893, pan brynodd David Davies y siop ac yntau'n wr ifanc 21 oed, nes i'w wyr Douglas Jenkins ymddeol yn 2002.

Pan ddathlodd y siop 100 mlynedd dan berchnogaeth yr un teulu yn 1993 fe ymddangosodd ar y rhaglen deledu 'Hel Straeon' gyda Catrin Beard yn siarad â Hilaria, merch David Jones, a fu â gofal ar y lle o 1936 i 1981, a hefyd Douglas Jenkins (nai 'Laria) ai wraig Maureen a fu yno o 1981 tan ddiwedd Awst, 2002.

Gwelwyd hefyd nifer o bobl y pentref, gyda sawl un sydd, fel Laria, wedi ein gadael bellach, pob un ohonynt yn uchel ei glod i'r hen siop.

Pob dim o bop i betrol!
Bu amrywiaeth o bethau ar werth yno yn eu tro ac, wrth gwrs, roedd yn gwerthu petrol hefyd, a hynny o bympiau oedd ar y pafin ar ochr y ffordd. Dim ond oherwydd oed y drwydded roedd caniatad i wneud hynny y blynyddoedd diweddaraf yma, a gyda'r newid perchnogaeth daeth y drwydded honno i ben. Byddai'r petrol ar werth mewn tuniau yn amser David Davies, ac mae rhai o'r tuniau hynny i'w gweld y tu allan i'r siop yn y llun sydd ar y calendr.


Heddiw - William a Jessica
Heddiw - William a Jessica
Cysylltiad rhyfedd rhwng perchnogion
Roedd llawer o ddiddordeb gan David Davies mewn beiciau - gan gynnwys beiciau modur, ac mae hyn yn dod âni at gysylltiad rhyfedd rhwng y perchennog cyntaf â'r perchnogion newydd a gymerodd ofal o'r lle fis Medi diwethaf.

O Lundain y daeth William a Jessica i Frynaman. Yng Nghaerdydd y ganwyd ac y magwyd William, ac wedi mynd i Goleg Celf Caerdydd ac yna i Goleg yn Llundain bu'n gweithio yno dan gynllun Addysg Gymunedol yn dysgu pobl sut i gynllunio a gwneud dodrefn. Ond roedd ei fryd ar ddod nol i Gymru, ac yn arbennig i gymuned Gymraeg ei hiaith, ac yntau wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ei hun.

Bu ef a Jess yn chwilio yn ddyfal dros gyfnod o ddwy flynedd am le oedd yn apelio atynt ond heb lwyddo. Tra'n teithio trwy Frynaman ar ei feic modur un diwrnod bu rhaid i William aros ar Hewl Stesion i holi am fenthyg spaner i dynhau'r drych ar ei feic - ac i ble aeth e i holi ? - ie wir i chi - i "Siop Laria"!

Wrth sgwrsio â Douglas, a chael benthyg spaner, clywodd fod y lle ar werth. Cael golwg o gwmpas, galwad ffôn ar frys i Jess yn Llundain, a dyna ddechrau ar bethau.

Rhedeg siop a gwersi ioga!
O Rwsia a Gwlad Pwyl y daeth cyndeidiau Jess i Brydain, ac yn Llundain y magwyd hi. Athrawes ioga a dawns yw hi gyda phrofiad helaeth yn y maes. Mae hi wedi dechrau dosbarth ioga yn Yr Aelwyd ym Mrynaman ar nos Iau rhwng 7 a 8.30 yr hwyr, ac os hoffech chi ymuno â'r dosbarth hwnnw yna galwch yn y siop i gael gair â hi. Mae'n gobeithio symud ymlaen at weithdai perfformio hefyd yn y dyfodol.

Bu'n dilyn gwersi Cymraeg mewn dosbarthiadau yng Nghanolfan Cymry Llundain am ddwy flynedd cyn symud ac mae hi'n awyddus i gael cyfle i ymarfer - y broblem yw fod pobl yn siarad braidd yn rhy gyflym iddi ar hyn o bryd ond fe ddaw pethau'n well.

Mae yna aelod arall i'r teulu hefyd - cariad o gi defaid bach ifanc o'r enw Cwsg.Mae William a Jess yn awyddus iawn i werthu cynnyrch lleol yn y siop fel wyau, menyn, teisennau a bwydydd naturiol. Maen nhw hefyd yn gobeithio gallu gwerthu papurau a chylchgronau Cymraeg gan gynnwys cylchgronau'r Urdd. Maen nhw eisoes yn gwerthu'r Glo Man a chardiau Cymraeg.

Rhywbryd yn y dyfodol fe hoffen nhw agor lle te lan ar lawr ucha'r siop, gan roi cyfle i bobl hamddena dros gwpanaid o de. Gobeithiant hefyd allu gwerthu peth crefftwaith Cymreig a mân anrhegion.

Maen nhw'n bar ifanc croesawgar a diddorol, sy'n llawn brwdfrydedd ag awydd i ddod yn rhan o fywyd y pentref - ac yn esiampl wych o'r math gorau o fewnfudwyr i'r gymuned wledig Gymreig. Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth felly galwch i mewn i'w gweld, bobl Brynaman a thu hwnt, fe gewch groeso cynnes.

Pob hwyl a lwc dda i'r ddau yn eu menter newydd.

M.T.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý