Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Bryan Smith Cerdded i Begwn y Gogledd
Mai 2005
Y mae gŵr o Landybie yn cymryd rhan yn un o rasys mwyaf anodd y byd sef y sialens Pegynnol - ras o fewn cylch yr Arctig i Begwn Magnetig y gogledd (Magnetic North Pole.)

Heddwas yw Bryan Smith yng nghanol Dinas Abertawe ac mae'n byw yn Heol y Brenin, Llandybie gyda'i wraig Donna a dau o blant bach. Bues gyda Bryan yn siarad am yr her ac wrth gwrs y cwestiwn cyntaf a ofynnais iddo oedd "Paham"?

Darllenodd am yr her ym mhapur Sul y Telegraph a chan fod ganddo brofiad o aeaf yn Alaska roedd darllen am y ras yn cynnig cyfle iddo i fynd ar antur i Begwn Magentic y Gogledd - un o lefydd mwyaf anghysbell Hemisffer y Gogledd - roedd siawns hefyd i gasglu arian i elusen Antony Nolan.

Beth am y daith?
Man cychwyn y daith yw Resolute (neu Kavjuitoq yn iaith y brodorion lleol) ar ynys Cornwallis ar yr 22ain o Ebrill. O'r fan hyn mae 380 milltir i'w gerdded, dros fôr rhewedig yn bennaf i Isachsen ar ynys Elef Ringnes. Un ar bymtheg o dimau sydd yn y ras gyda thri aelod i bob tîm. Bryan yw'r unig gystadleuydd o Gymru a Bryan fydd y Cymro cyntaf erioed i godi'r Ddraig Goch uwchben pegwn Magnetic y Gogledd!

Pa fath o offer sydd gennych?
Pegwn y GogleddCludir yr offer ar slediau plastig a elwir yn Pulks - tebyg iawn i'r slediau a dynnir gan blant yr ardal ar ôl cwymp fawr o eira- ond tipyn yn fwy ac yn gryfach! Cysgu mewn pebyll arbennig wnawn gan goginio ar stof Naptha. Bydd y babell yn eithaf cynnes pan yn coginio ond unwaith bydd y stof yn mynd allan bydd y tymheredd yn cwmpo i 31 C o dan y rhewbwynt.

Gwisgir dillad addas wrth reswm - ond dim gormod oherwydd nid ydynt am chwysu gormod gan fyddai'r chwys yn rhewi tu fewn y dillad ac felly byddai'r dillad yn drymach ac yn llai effeithiol. Byddant yn cerdded ar sgîs mewn esgidiau sy'n medru gwrthsefyll tymheredd o 100 C o dan y rhewbwynt. Bydd Bryan yn gwisgo het arbennig o groen Caribw a blew coyte - het a wnaethpwyd iddo pan oedd yn Alaska gan un o frodorion Canada.

Am fwyd?
Pasta, reis, uwd, salami, caws, snaciau megis cnau, losin, ffrwythau sych. Bydd bagiau o fwyd i bob dydd - yn cynnwys brecwast snaciau a phryd nos. Cludir bag bwyd y dydd tu fewn y dillad gan ddatleth yn araf ac arbed amser. Bydd hefyd yn defnyddio llawer o olew olewydd oherwydd rhaid iddynt gymryd rhwng pump a saith mil o galorïau y dydd ac mae'r olew yn rhoi llawer o galorïau am ychydig iawn o bwysau!

Paratoadau?
Bu Bryan yn paratoi wrth seiclo i'w waith yn Abertawe, tynnu'r sled ar hyd traeth Cefn Sidan ac ar fynyddoedd Eryri.

Peryglon?
Mae'r ardal yn gynefin i 80% o eirth gwyn y byd, ond gan taw'r haf ydyw nawr y mae digon o forloi ar yr iâ! Bydd pedair stop ar y ffordd ac mae awyrennau a hofrenyddion wrth law pe bai problemau.

Wel, pob lwc i Bryan! Gobeithio cawn lun arall ohono a hanes yr antur nes ymlaen.

John Davies.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý