Â鶹ԼÅÄ

Maetholion planhigion

Mae planhigion yn defnyddio maetholion o’r pridd i adeiladu’r moleciwlau cymhleth sydd eu hangen er mwyn iddynt oroesi a thyfu. Fydd planhigion ddim yn tyfu’n dda os oes diffyg un neu fwy o fwynau.

Mwynau gofynnol

Mae gwrteithiau yn cynnwys mwynau fel:

  • nitradau
  • ffosffadau
  • cyfansoddion potasiwm

Mae angen y mwynau hyn er mwyn i blanhigion dyfu’n iach. Mae’r tabl yn crynhoi pam.

MwynElfen mae’n ei chyflenwiPam mae ei angen
NitradauNitrogen, NMae angen nitrogen i wneud asidau amino ar gyfer proteinau, sydd eu hangen ar gyfer twf celloedd
FfosffadauFfosfforws, PMae angen ffosfforws i wneud DNA a chellbilenni
Cyfansoddion potasiwmPotasiwm, KMae angen potasiwm mewn ensymau sy’n ymwneud â resbiradaeth a ffotosynthesis
MwynNitradau
Elfen mae’n ei chyflenwiNitrogen, N
Pam mae ei angenMae angen nitrogen i wneud asidau amino ar gyfer proteinau, sydd eu hangen ar gyfer twf celloedd
MwynFfosffadau
Elfen mae’n ei chyflenwiFfosfforws, P
Pam mae ei angenMae angen ffosfforws i wneud DNA a chellbilenni
MwynCyfansoddion potasiwm
Elfen mae’n ei chyflenwiPotasiwm, K
Pam mae ei angenMae angen potasiwm mewn ensymau sy’n ymwneud â resbiradaeth a ffotosynthesis

Mae yn dangos cyfraneddau cymharol nitradau, ffosffadau a photasiwm mewn gwrtaith. Maent yn helpu ffermwyr i benderfynu pa wrtaith yw’r gorau i’r amodau pridd yn eu caeau.

Bag o gwrtaith NPK. Cyfraneddau cymharol y nitradau, ffosffadau a photasiwm ydy 20:10:10.