Â鶹ԼÅÄ

Sylem a ffloem

Mae gan blanhigion feinweoedd i gludo dŵr, maetholion a mwynau.

  • Mae yn cludo dŵr a halwynau mwynol o’r gwreiddiau i fyny i rannau eraill o’r planhigyn.
  • Mae yn cludo swcros ac rhwng y dail a rhannau eraill o’r planhigyn.
Trawstoriad drwy wreiddyn planhigyn. Sylem a Ffloem wedi'u labelu yn y canol.
Figure caption,
Sylem a ffloem yng nghanol gwreiddyn y planhigyn

Mae’r tabl hwn yn egluro beth sy’n cael ei gludo gan y sylem a’r ffloem.

MeinweBeth sy’n cael ei symudProses
SylemDŵr a mwynauLlif trydarthol
FfloemSwcros ac asidau aminoTrawsleoliad
MeinweSylem
Beth sy’n cael ei symudDŵr a mwynau
ProsesLlif trydarthol
MeinweFfloem
Beth sy’n cael ei symudSwcros ac asidau amino
ProsesTrawsleoliad

Sylem

Mae sylem aeddfed yn cynnwys celloedd marw hirgul, wedi eu trefnu o un pen i’r llall i ffurfio tiwbiau parhaus.

Tiwbiau sylem aeddfed:

  • dydyn nhw ddim yn cynnwys
  • maen nhw’n i ddŵr
  • mae ganddyn nhw furiau cadarn sy’n cynnwys deunydd prennaidd, sef lignin

Ffloem

Mae ffloem yn cynnwys celloedd byw wedi eu trefnu o un pen i’r llall. Yn wahanol i sylem, mae tiwbiau ffloem yn cynnwys cytoplasm, ac mae hwn yn mynd drwy dyllau’r plat hidlo o un gell i’r un nesaf.

Mae ffloem yn cludo swcros ac asidau amino i fyny ac i lawr y planhigyn. ydy’r enw ar hyn. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd rhwng lle mae’r sylweddau yn cael eu gwneud (y ffynonellau) a lle maen nhw’n cael eu defnyddio neu eu cadw (y suddfannau/sincs).

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod swcros yn cael ei gludo:

  • ffynonellau yn y gwreiddyn i suddfannau yn y dail yn ystod y gwanwyn
  • ffynonellau yn y dail i suddfannau yn y gwreiddyn yn yr haf

Mae cemegau sy’n cael eu defnyddio, fel , hefyd yn symud drwy’r planhigyn drwy drawsleoliad.