Â鶹ԼÅÄ

Ymchwilio i drydarthiad

Rydyn ni’n gallu ymchwilio i gyfradd drwy fesur y gostyngiad mewn yn sgil colli dŵr, neu drwy fesur cyfaint y dŵr sydd wedi ei amsugno.

Gostyngiad mewn ³¾Ã ²õ

Mae posib ymchwilio i ostyngiad mewn ³¾Ã ²õ planhigyn oherwydd trydarthiad gan ddefnyddio’r dull canlynol:

  1. Dewis pedair deilen o faint tebyg.
  2. Gorchuddio arwyneb y dail gyda jeli petroliwm fel sy’n cael ei ddangos yn y diagram.
  3. Cofnodi ³¾Ã ²õ cychwynnol y dail.
  4. Ar ôl 24 awr, cofnodi ³¾Ã ²õ y dail a chyfrif canran y gostyngiad mewn ³¾Ã ²õ.
"4 deilen ar wifren. 1 Dim jeli petroliwm. 2 Jeli petroliwm wyneb uchaf y ddeilen yn unig. 3 Jeli petroliwm wyneb isaf y ddeilen yn unig. 4 Jeli petroliwm ar ddau wyneb y ddeilen "

Dyma'r canlyniadau.

Deilen 1Deilen 2Deilen 3Deilen 4
Arwyneb wedi ei orchuddio â jeli petroliwmDimUchaf yn unigIsaf yn unigY ddau
% gostyngiad mewn ³¾Ã ²õ403642
Arwyneb wedi ei orchuddio â jeli petroliwm
Deilen 1Dim
Deilen 2Uchaf yn unig
Deilen 3Isaf yn unig
Deilen 4Y ddau
% gostyngiad mewn ³¾Ã ²õ
Deilen 140
Deilen 236
Deilen 34
Deilen 42

Question

Pa gasgliadau alli di eu ffurfio o’r canlyniadau uchod? Rho ddau ddarn o dystiolaeth i ategu dy ateb.

Potomedr

Gallwn ni ddefnyddio i fesur cyfradd trydarthiad sy’n gyfrannol i mewnlifiad dŵr. Dydyn ni ddim yn gallu mesur trydarthiad yn uniongyrchol oherwydd bydd rhywfaint o’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn ystod ffotosynthesis. Gallwn ni gyfrifo cyfradd trydarthiad drwy fesur y pellter mae swigen aer yn ei deithio mewn tiwb capilari mewn amser penodol. Y cyflymaf mae’r swigen yn symud, y mwyaf yw cyfradd mewnlifiad dŵr – ac felly y mwyaf rydyn ni’n tybio yw’r gyfradd trydarthu.

Diagram o arbrawf sy'n defnyddio potomedr i fesur cyfradd trydarthiad. Cyffyn wedi'i dorri, cronfa, graddfa gyfaint, swigen aer, tiwb capilari, a bicer o ddŵr wedi'u labelu.
Figure caption,
Arbrawf yn defnyddio potomedr i gyfrifo cyfradd trydarthiad

Rydyn ni’n cydosod y potomedr o dan y dŵr i osgoi swigod aer dieisiau yn sylem y planhigyn – gallai hyn darfu ar y llif trydarthol. Rydyn ni’n selio pob uniad â jeli petroliwm i wneud y cyfarpar mor aerglos â phosibl.

Dull

  1. Rhoi un swigen aer yn y tiwb capilari.
  2. Agor y tap ar y gronfa i ychwanegu dŵr i wthio’r swigen aer yn ôl at sero ar y raddfa.
  3. Dechrau amserydd a mesur amser penodol.
  4. Cofnodi’r pellter mae’r swigen aer wedi’i deithio ar hyd y raddfa.
  5. Gallwn ni ailadrodd yr arbrawf â gwahanol amodau amgylcheddol.

Y cyflymaf mae’r swigen yn symud, y mwyaf yw cyfradd mewnlifiad dŵr – ac felly y mwyaf yw’r gyfradd trydarthu.

Ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd

Mae’r gyfradd trydarthu yn cael ei heffeithio gan sawl ffactor, gan gynnwys:

  • tymheredd
  • lleithder
  • cyflymder gwynt
  • tanbeidrwydd golau

Mae’r tabl yn dangos effeithiau gwahanol ffactorau ar gyfradd trydarthu.

FfactorEffaithEglurhad
TymhereddCynydduMae anweddiad a thrylediad yn gynt ar dymheredd uwch
LleithderGostwngMae lleithder yn lleihau’r graddiant crynodiad rhwng tu mewn a thu allan y ddeilen – mae hyn yn lleihau trydarthiad
Cyflymder gwyntCynydduMae aer sy’n symud yn cael gwared ar anwedd dŵr, gan gynyddu cyfradd trydarthu anwedd dŵr o’r ddeilen
Tanbeidrwydd golauCynydduMae’r stomata yn agor yn fwy llydan i adael mwy o garbon deuocsid i mewn i’r ddeilen ar gyfer ffotosynthesis
FfactorTymheredd
EffaithCynyddu
EglurhadMae anweddiad a thrylediad yn gynt ar dymheredd uwch
FfactorLleithder
EffaithGostwng
EglurhadMae lleithder yn lleihau’r graddiant crynodiad rhwng tu mewn a thu allan y ddeilen – mae hyn yn lleihau trydarthiad
FfactorCyflymder gwynt
EffaithCynyddu
EglurhadMae aer sy’n symud yn cael gwared ar anwedd dŵr, gan gynyddu cyfradd trydarthu anwedd dŵr o’r ddeilen
FfactorTanbeidrwydd golau
EffaithCynyddu
EglurhadMae’r stomata yn agor yn fwy llydan i adael mwy o garbon deuocsid i mewn i’r ddeilen ar gyfer ffotosynthesis