Â鶹ԼÅÄ

Llif trydarthol

ydy anweddiad dŵr ar arwynebau’r celloedd mesoffyl sbyngaidd mewn dail, cyn colli anwedd dŵr drwy’r .

Diagram yn dangos trydarthiad mewn deilen. Tiwbiau sylem, Celloedd mesoffyl sbyngaidd, a Celloedd gwarchod wedi'u labelu. Saethau'n dangos i ba gyfeiriad mae'r dŵr yn mynd.
Figure caption,
Trydarthu yn y ddeilen

Mae dŵr yn symud drwy’r mewn parhaus:

gwreiddyn → coesyn → deilen

Mae trydarthiad yn gwneud i’r dail gynhyrchu tynfa neu rym ‘tynnu’ ar y dŵr yn y tiwbiau sylem. Mae moleciwlau dŵr yn felly mae dŵr yn cael ei dynnu i fyny drwy’r planhigyn.

Mae gan y llif trydarthu sawl swyddogaeth, gan gynnwys:

  • cludo mwynol
  • darparu dŵr i gadw celloedd yn er mwyn cynnal y planhigyn
  • darparu dŵr i gelloedd dail ar gyfer
  • cadw’r dail yn oer drwy anweddiad

Cyfradd trydarthu

Os ydy’r gyfradd yn cynyddu, mae cyfradd yr amsugniad dŵr gan y gwreiddyn yn cynyddu hefyd. Mae ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd trydarthu hefyd yn effeithio ar gymeriant dŵr y planhigyn. Os ydy dŵr yn brin, neu os ydy’r gwreiddiau wedi eu difrodi, mae planhigyn yn gallu gwywo.

Celloedd gwreiddflew

Mae’r rhan fwyaf o amsugniad dŵr yn digwydd yn y . Maen nhw’n hir a chul ac felly’n gallu treiddio rhwng gronynnau pridd, ac mae ganddyn nhw arwyneb mawr ar gyfer amsugno dŵr drwy osmosis.

Trawstoriad drwy wreiddflewyn.

Mae dŵr yn pasio o ddŵr y pridd i y gell wreiddflew drwy . Mae hyn yn digwydd gan fod gan ddŵr y pridd grynodiad uwch na cytoplasm y gell wreiddflew.

Tabl â dwy golofn a dwy res. Mae'r colofnau wedi'u labelu'n 'Crynodiad dŵr' a 'Crynodiad yr hydoddion wedi hydoddi'. Mae'r rhesi wedi'u labelu'n 'Dŵr pridd' a 'Cytoplasm cell wreiddflew'.