Blog
Pwrpas blog yw trafod testun sydd o ddiddordeb i’r unigolyn. Gall fod yn trafod digwyddiad, taith, neu farn am bwnc penodol. Gall hefyd fod yn ffordd o adolygu ffilm neu nofel.
Iaith ac arddull
- Rhaid i ti ysgrifennu’n cronolegolPan mae pethau’n cael eu nodi yn y drefn wnaethon nhw ddigwydd..
- Rhaid i ti ddewis teitl sydd yn mynd i dynnu sylw ac yn crynhoi cynnwys y blog.
- Rhaid i ti ysgrifennu yn y person cyntaf.
- Rhaid i ti ddefnyddio iaith bob dydd yn hytrach na iaith ffurfiol.
- Rhaid i ti gadw’r gwaith yn syml gyda brawddegau byr.
Enghraifft o flog
Merched ysbrydoledig
Mae diwedd y flwyddyn yn adeg dda am restr, dydy? Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn merched arbennig. Dyma ddwy sydd wedi fy ysbrydoli i.
Malala Yousafzai
Does dim angen dweud llawer am y ferch ifanc hon - mae ei henw yn ddigon i lenwi calon rhywun â balchder. Ddiwedd 2014 enillodd hi Wobr Heddwch Nobel a pharhaodd â’i gwaith angerddolTeimlo’n gryf am rywbeth. a’i hymgyrch i gael addysg gyfartal i bob merch. Yn ddeunaw oed, mae’r ferch hon wedi gwneud mwy o wahaniaeth yn y byd nag y gall y rhan fwyaf ohonom obeithio gwneud.
Amy Schumer
Nid yn aml y mae merched yn ennill eu plwyfGwneud yn dda. ym myd comedi mor fuan yn eu gyrfa ag y mae Amy Schumer wedi’i wneud. Mi ysgrifennodd hi ac actio yn y ffilm Trainwreck a dderbyniodd glod mawr gan feirniaid ym mhob man. Mae’r ffilm yn torri tir newydd o ran newid y ffordd esgyrnaidd y mae merched mewn comedi, ac yn fwy penodol mewn comedïau rhamantus, yn Hollywood yn cael eu portreadu.
Casgla bump ffaith am effaith uwchgylchu. Ysgrifenna flog yn trafod uwchgylchu.