Â鶹ԼÅÄ

Llythyr

Pwrpas llythyr yw rhannu gwybodaeth gyda rhywun arall. Galli di gael llythyrau ffurfiol ac anffurfiol. Wrth fynegi barn gan amlaf mae angen llythyr ffurfiol.

Iaith ac arddull

  • Rhaid gosod cyfeiriad personol a chyfeiriad y person sydd yn derbyn y llythyr.
  • Rhaid dechrau’r llythyr gyda chyfarchiad.
  • Rhaid nodi pam rwyt ti’n ysgrifennu ar ddechrau’r llythyr.
  • Rhaid cynnwys paragraffau i roi trefn ar y gwaith.
  • Rhaid defnyddio iaith ffurfiol.
  • Rhaid defnyddio’r ail berson lluosog – chi/eich.
  • Rhaid ysgrifennu yn yr amser gorffennol i nodi beth sydd wedi digwydd ac yn y dyfodol i nodi beth hoffet ti ei weld yn digwydd.
  • Rhaid defnyddio arddull mynegi barn, ee berfau gorchmynnol, cwestiynau rhethregol, ailadrodd a rhestru os oes angen.

Enghraifft o ran o lythyr yn mynegi barn

Ysgrifennaf atoch i gyhoeddi fy nicter tuag at gynlluniau i foddi Cwm Celyn. Ar ôl cysylltu gydag aelodau o gymuned Capel Celyn, mae’n amlwg fod y rhan helaeth yn cytuno bod hyn yn warthus. Hoffwn gynrychioli barn pobl y cwm a barn eraill ledled Cymru yn y llythyr hwn.

Yn gyntaf, hoffwn sôn am y cenedlaethau a’r teuluoedd sydd wedi adeiladu pentref, neu’n hytrach, cymuned ers canrifoedd. Heb Cwm Celyn, does dim cartrefi, dim bywoliaeth a dim swyddi gan gymdogion y cwm. Petaech chi’n boddi’r cwm, byddech chi hefyd yn boddi cenedlaethau o fywydau. Dychmygwch eich teulu chi yn gorfod gadael eu pentref a’u holl atgofion! Fyddech chi’n eistodd nôl a gadael i’r fath beth ddigwydd?

Question

Noda ble mae enghreifftiau o’r nodweddion arddull canlynol:

  • berfau gorchmynnol
  • cyfarch y darllenydd
  • cwestiynau rhethregol
  • ailadrodd/rhestru