鶹Լ

Crynodeb o’r asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Trafod, ʱâ a Chyfarwyddiadol.

Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gallant fod naill ai’n dasgau trafod neu'n dasgau perswadio.

Mae’r papur yn werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen
  • 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu

Cyfarwyddiadol

Beth yw testun cyfarwyddiadol?

Mae testun cyfarwyddiadol yn:

  • disgrifio sut mae rhywbeth yn cael ei wneud drwy restru cyfres o gamau
  • dechrau gan ddweud beth yw’r nod neu’r pwrpas
  • rhestru’r hyn sydd ei angen
  • camau mewn trefn amser
  • defnyddio pwyntiau bwled neu rifau
  • defnyddio berfau gorchmynnol

Math o ffurfiau ysgrifennu

  • Poster
  • á
  • Rheolau
  • Cyfarwyddiadau

Wrth ddarllen darn cyfarwyddiadol cofia ystyried:

  • ffurf - ym mha ffurf mae’r awdur wedi ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
  • cynulleidfa - ar gyfer pwy mae’r awdur wedi ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
  • pwrpas – pam mae'r awdur yn ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
  • arddull – sut mae’r awdur yn ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig ayyb)?