Neges e-bost
Pwrpas neges e-bost yw i roi gwybodaeth neu ofyn am wybodaeth. Gall e-bost fod yn ffordd o gysylltu gyda chwmni neu asiantaeth i fynegi barn am bwnc.
Arddull
- Rhaid i ti nodi cyfeiriad e-bost y person sydd yn derbyn yr e-bost a nodi gan bwy mae’r e-bost.
- Rhaid i ti nodi beth yw pwnc yn yr e-bost yn y blwch ‘Pwnc’.
- Rhaid i ti ddechrau neges e-bost ffurfiol drwy ddefnyddio termau cyfarch ee Annwyl Syr/Madam.
- Rhaid i ti ofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth yn ôl.
- Rhaid i ti gynnwys technegau ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru os bydd angen.
Enghraifft o e-bost ffurfiol
Annwyl Mr Owen,
Rwy’n cysylltu â chi heddiw er mwyn cael ychydig mwy o wybodaeth am y swydd Prif Gogydd yn eich bwyty ‘Cwmni Blas’ yn Nhre’r Sosban. Gwelais yr hysbyseb yn y papur newydd lleol.
Rwy'n meddwl ymgeisio am y swydd a hoffwn gael mwy o wybodaeth am delerau’r swydd hon. Hoffwn wybod a fydd angen i mi weithio ar y penwythnosau. A hefyd a fydd posib i mi gael cynllunio fy mwydlen fy hun yn hytrach na dilyn y fwydlen bresennol?
Rwy'n awyddus iawn i ymgeisio am y swydd hon a byddaf yn ysgrifennu llythyr cais ac yn ei yrru atoch yn fuan. Rwy’n berson gweithgar iawn ac mae gen i lawer iawn i’w gynnig i chi ar gyfer agor eich bwyty.
Edrychaf ymlaen at glywed yn ôl gennych yn fuan ac rwy’n gobeithio y bydd fy llythyr cais yn eich plesio.
Cofion cynhesaf,
Mari Hughes
Dychmyga dy fod yn trefnu disgo. Ysgrifenna e-bost yn perswadio’r prifathro i gael cynnal y disgo yn neuadd yr ysgol.