鶹Լ

Crynodeb o’r asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Trafod, ʱâ a Chyfarwyddiadol.

Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gallant fod naill ai’n dasgau trafod neu perswadio.

Mae’r papur werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen
  • 40 marc ar gyfer y ddwy dasg ysgrifennu

ʱâ

Beth yw gofynion testun sydd yn perswadio?

  • Mae angen i ti berswadio darllenydd i gytuno â dy farn di.
  • Mae angen i ti ysgrifennu yn y person cyntaf.
  • Mae angen nodi beth yw’r testun, ysgrifennu cyfres o bwyntiau i ddadlau a chrynhoi ar ddiwedd y darn.
  • Rhaid i ti gynnwys rhesymau i gefnogi dy farn.
  • Os wyt ti’n cyfarch y darllenydd dylet ti wneud hynny yn uniongyrchol.
  • Defnyddio amser presennol y ferf.

Mathau o ffurfiau ysgrifennu perswadiol:

  • llythyr
  • e-bost
  • hysbyseb
  • poster
  • araith
  • blog

Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu’n berswadiol:

  • ffurf - ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
  • cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
  • pwrpas - pam wyt ti’n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
  • arddull - sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)?