Crynodeb o’r asesiad
Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i’w hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o’r ddau. Gall y dasg fod naill ai’n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.
Mae’r papur (uned dau) werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen
- 40 marc ar gyfer yr ysgrifennu
Bydd y canllaw hwn yn canolbwyntio ar yr uned ysgrifennu, sef:
- 35 marc am ysgrifennu estynedig
- 20 marc am gyfathrebu a threfn
- 15 marc am ysgrifennu’n gywir
Bydd un dasg brawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir yn uned dau yn ogystal.
Disgrifio
Beth yw testun disgrifiadol?
- Testun sy’n disgrifio neu’n cyflwyno gwybodaeth am bwnc, lleoliad, gwrthrych, person ac ati.
- Mae’n creu cymeriad neu leoliad dychmygol neu real.
- Nod darn disgrifiadol yw creu awyrgylch a naws.
- Gellir defnyddio ystod o nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, trosiadau a phersonoli.
- Does dim angen mynegi barn na chynnig esboniad (fel arfer).
Mathau o ysgrifennu disgrifiadol sy’n bosibl:
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu’n ddisgrifiadol:
- ffurf - ym mha ffurf wyt ti'n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
- cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti'n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
- pwrpas – pam wyt ti'n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
- arddull – sut wyt ti'n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, anffurfiol ayyb)?