Crynodeb o’r asesiad
Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o’r ddau. Gall y dasg fod naill ai’n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.
Mae’r papur werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y dasg ddarllen
- 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu
- Bydd un dasg prawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir yn uned dau yn ogystal
Naratif
Beth yw testun naratif?
- Ailadrodd digwyddiadau yn eu trefn gronolegolYsgrifennu rhywbeth mewn trefn, ee o’r bore hyd at y nos..
- Mae darnau naratif yn cael eu hysgrifennu yn y person cyntaf neu’r trydydd person.
- Mae’r testunau yn cynnwys manylion ynghylch pwy, beth, pryd, pam a ble.
- Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
- Gellir defnyddio sgwrs/deialog.
Mathau o ffurfiau naratif:
- stori fer
- hunangofiant
- cofiant
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu’n ddisgrifiadol:
- ffurf – ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori, ayyb)?
- cynulleidfa – ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod, ayyb)?
- pwrpas – pam wyt ti’n ysgrifennu (perswadio, dadlau, adrodd hanes, ayyb)?
- arddull – sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith, ayyb)?