Crynodeb o’r asesiad
Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i’w hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o’r ddau. Gall y dasg fod naill ai’n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.
Mae’r papur yn werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen.
- 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu sef, ysgrifennu estynedig am 35 marc, cyfathrebu a threfn am 20 marc a 15 marc am ysgrifennu’n gywir. Bydd un dasg prawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir yn uned dau yn ogystal.
Esbonio
Beth yw testun sydd yn esbonio?
- Testun sydd yn esbonio proses neu sut mae rhywbeth yn gweithio.
- Mae angen defnyddio paragraffau i gyflwyno gwahanol resymau/camau i’r broses.
- Gan amlaf byddi yn ysgrifennu gan ddefnyddio amser presennol y ferf.
- Gan amlaf mae angen canolbwyntio ar achos ac effaith.
- Weithiau bydd rhaid defnyddio geiriau a thermau technegol.
- Mae modd defnyddio diagramau a siartiau llif (cofia does dim disgwyl i ti wneud hyn wrth ysgrifennu yn yr arholiad).
Dyma rai o’r ffurfiau ysgrifennu sy’n bosibl:
- adroddiad ar destunau gwahanol – gwyddonol, hanesyddol, papur newydd
- cofnodion cyfarfodydd
- ffeithlun
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu esboniad:
- ffurf – ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (adroddiad, cofnodion, erthygl ayyb)
- cynulleidfa – ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)
- pwrpas – pam wyt ti’n ysgrifennu (i egluro, esbonio, adrodd hanes ayyb)
- arddull – sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)