Hysbyseb
Pwrpas hysbyseb yw hysbysebu digwyddiad a pherswadio pobl i fynychu’r hyn sy’n cael ei hysbysebu. Gall hysbyseb hefyd fod yn ffordd o hysbysebu cynnyrch er mwyn perswadio person i’w brynu.
Arddull
- Rhaid i ti ystyried pwy yw’r gynulleidfa darged a phwy yw’r bobl rydych yn ceisio eu perswadio.
- Rhaid i ti ddefnyddio technegau arddull disgrifiadol, ee ansoddeiriau.
- Rhaid i ti ddefnyddio berfau gorchmynnol i annog y darllenydd.
- Rhaid i ti ddefnyddio iaith emosiynol i geisio perswadio.
- Rhaid i ti gynnwys cwestiynau addas a’u hateb.
Enghraifft o hysbyseb
Llunia hysbyseb i berswadio disgyblion i ymuno â chlwb ffitrwydd yr ysgol.