Â鶹ԼÅÄ

Thema a neges

Mae’r gerdd yn trin a thrafod y themâu:

  • byd natur
  • defnyddio dychymyg
  • gwerthfawrogi ein hamgylchedd
  • cymryd seibiant o brysurdeb bywyd bob dydd

Neges y gerdd yw y dylen ni ddefnyddio ein dychymyg yn amlach yn ein bywydau bob dydd er mwyn gweld y fyd lle mwy hardd i fyw. Mae’r bardd yn ein cyfarch fel ffrindiau ac nid yw’n ei gosod ei hun uwchlaw pawb arall am ei bod hi’n fardd. Yn hytrach mae hi’n ein hargyhoeddi ac yn ein hatgoffa ein bod ni i gyd yn berchen ar ddychymyg ac mae hi am i ni rannu’r un profiadau â hi trwy roi cynnig ar wisgo’r sbectol hud.

Question

Trafodwch y thema byd natur yn y gerdd hon. Sut mae’r bardd yn ein hannog i werthfawrogi’r byd?