Â鶹ԼÅÄ

Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys IorwerthY gerdd

Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Y gerdd

Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
by Rhys Iorwerth

Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.

Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.

Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi

yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio...

Ym mrad yr edrychiadau, -
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau

yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.