麻豆约拍

Y gerdd

Etifeddiaeth
by Gerallt Lloyd Owen

Cawsom wlad i鈥檞 chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a鈥檌 grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau t芒n
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i鈥檞 hanes;
gwymon o ddynion heb ddal
tro鈥檙 trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl,
a鈥檌 hedd yw ei hangau hi.