鶹Լ

Beth yw cerdd gaeth?

Rhaid i gerddi caeth ddilyn rheolau penodol er mwyn cael eu hystyried yn gaeth. Bydd angen i bob llinell ddilyn rheolau’r gynghanedd. Dyma sy’n gwneud y cerddi caeth yn wahanol i gerddi rhydd.

Beth yw cynghanedd?

Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth yw cynghanedd. System o roi trefn arbennig ar gytseiniaid mewn llinell o farddoniaeth yw hi.

Ceir pedwar prif fath o gynghanedd:

  • Croes: Gofyn wyf a gaf un wên
  • Traws: gadael yn sŵn ergydion
  • Sain: fy afon yw hon o hyd
  • Llusg: yn yr ardd gwelais harddwch

Mae cynghanedd yn ymddangos mewn cerddi o fesurau gwahanol. Mae’n bosib i’r cerddi hyn edrych yn wahanol gan eu bod yn fesurau gwahanol, ond yr hyn sydd yn debyg rhyngddyn nhw yw eu bod i gyd yn cynnwys cynghanedd.