麻豆约拍

Y gerdd

Ofn
by Hywel Griffiths

Terrorism can hit us anywhere from any place.

Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd,
a rhyddid wedi鈥檌 fygwth ar bob tu,
pan fo cysgodion ar y ffyrdd i gyd
a phob un cornel stryd yn gysgod du,
pan nad oes dim ond dychryn ar y sgrin
a dim ond nos yr ochr draw i鈥檙 llen,
pan fo pob ffrind yn sinistr a blin
a鈥檙 rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben,
diffoddwch y teledu am y tro,
agorwch lenni鈥檙 lolfa led y pen,
cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
i dorri drwy hualau鈥檙 ofnau sydd
yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.