Â鶹ԼÅÄ

Mesur

Er bod y gerdd yn ymddangos fel dau bennill ar wahân ar yr olwg gyntaf, soned yw hi.

Beth yw soned?

Cerdd 14 llinell, wedi’i rhannu’n wythawd (yr wyth llinell gyntaf) a chwechawd (y chwe llinell olaf). Rhwng yr wythawd ar chwechawd, daw newid yng nghyfeiriad meddwl y bardd. Yr enw ar hyn yw volta. Mae’r odlau’n dilyn y patrwm a b a b c ch c ch d dd d dd ee sef llinellau’n sy’n odli bob yn ail gyda chwpled clo ar y diwedd. Soned Shakespearaidd yw’r enw ar y math yma o soned.

Yn y soned hon mae’r bardd wedi penderfynu gadael gofod amlwg rhwng yr wythawd a’r chwechawd er mwyn tynnu sylw at y newid hwn. Yn yr wythawd cawn ddarluniau disgrifiadol hyfryd lle mae’r bardd yn rhannu ei phrofiadau ei hun o ddefnyddio’i dychymyg wrth edrych ar y byd. Yn y chwechawd mae hi’n ein perswadio ni i wneud yr un fath ac yn ein sicrhau bod y gallu gan bawb ohonon ni i weld pethau mewn gwahanol ffyrdd.