Â鶹ԼÅÄ

Cefndir a chyd-destun

Mewn byd lle mae prysurdeb a thechnoleg yn ein dallu i’r swyn a’r harddwch naturiol sydd o’n cwmpas, mae’r bardd yn ein i ddefnyddio ein dychymyg ac i edrych yn iawn ar bethau yn hytrach na dim ond eu gweld. Mae gweld hud ym mhopeth o fewn ein cyrraedd ni i gyd, dim ond i ni ddefnyddio ein dychymyg.

Darlun i gynrychioli y gerdd 'Y Sbectol Hud' gan Mererid Hopwood - o fyd sy'n edrych yn llwyd a thywyll, ond yn llachar a hardd drwy'r sbectol.
Figure caption,
Gweld y byd drwy lygaid dychymyg - sbectol hud

Yn llinellau agoriadol y gerdd, mae’r bardd Mererid Hopwood yn dweud na allwn weld popeth drwy’r amser dim ond yn ein dychymyg. Ni allwn weld y sêr yng ngolau dydd ond gallwn eu dychmygu. Ni allwn weld y lleuad wrth i’r haul fachlud na gweld y bryniau drwy niwl. Mae’r coed weithiau ynghudd o dan eira ac nid yw blodau ar eu gorau yn y glaw. Ond wrth i ni ddefnyddio ein dychymyg, cawn olwg newydd a ffres ar bethau yn yr un ffordd â mae’r bardd yn dychmygu’r dydd yn ddrws sy’n cau’r nos allan – a’r nos ar goll tu ôl i ddrws y dydd – y niwl yn gwisgo’r bryniau, a’r blodau’n crio glaw.

Yn y chwe llinell olaf mae’r bardd yn parhau gyda’r awgrym y dylai’r darllenydd wisgo sbectol hud. Mae’r dôn berswadiol wedi dechrau yn llinell pump gyda’r bardd yn cyfarch y darllenydd yn yr ail berson, sef ti. Mae hyn yn ffordd gynnes a chyfeillgar o dynnu’r darllenydd i mewn i’w byd hi: rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn. Mae’n cyfarch y darllenydd fel fy ffrind sy’n cyfleu agosatrwydd yn syth.

Mae’r bardd yn dweud wrth y darllenydd am roi’r sbectol hud ym mhoced ôl dy jîns. Mae hyn yn cyfleu pa mor hawdd yw cario’r sbectol gyda ni, hynny yw, mae’n dychymyg gennym ni bob amser, fel mae rhai pobl, er enghraifft, yn cario eu ffonau symudol gyda nhw bob amser ym mhocedi ôl eu jîns. Mae hynny’n rhywbeth cŵl i’w wneud, yn gyfoes ac ifanc. Felly hefyd dylai’r dychymyg fod - yn rhywbeth i’w dynnu o boced eich meddwl a’i ddefnyddio'n gyson.