麻豆约拍

Y gerdd

Y Coed
by Gwenallt (David James Jones)

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe鈥檜 plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.

Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn,
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd na wrn.

Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw,
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw.

Ni chlywem ni na chlychau鈥檙 eglwys na m诺esin y mosg,
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.

Nid yw鈥檙 dwylo a鈥檜 plannodd yn ddieuog, na鈥檜 cydwybod yn l芒n,
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi鈥檙 Arabiaid 芒鈥檜 t芒n.

Pam na ddylai鈥檙 Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Am芒n
Fforestydd o goed i gofio?

Ond ni allwn ni gondemnio鈥檙 Nats茂aid na鈥檙 Iddewon ychwaith
Canys fe droesom o鈥檙 awyr Dresden yn un uffern faith;

A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.

O鈥檙 holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,
Yr ugeinfed yw鈥檙 fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.

A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a鈥檙 rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.

A phan ddaw鈥檙 trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo鈥檙 lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,
Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu鈥檔 byw'r Efengyl yn ei oes.

Daw鈥檙 tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond coedwig y marwolaethau鈥檔 aros a fyddant hwy, er hyn.

Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i鈥檞 llawn maint,
Fe w锚l y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.