Â鶹ԼÅÄ

Arholiad TGAU Llenyddiaeth Gymraeg: barddoniaeth

Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti ddadansoddi cerdd nad wyt ti wedi ei hastudio o’r blaen. Efallai bod hyn yn swnio’n anodd ond mae ffordd o fynd ati i gymharu dwy gerdd yn llwyddiannus.

Tri darn o jig-sô wedi eu labelu 'Enwi', 'Enghraifft' ac 'Effaith' - i helpu gyda dod o hyd a defnyddio dyfyniad.

Edrycha ar yr enghraifft hon o gwestiwn:

Darllena'r ddwy gerdd ganlynol yn ofalus.

Yn y cerddi, mae’r bardd yn sôn am ddatblygiadau diwydiannol. Cymhara'r ddwy gerdd gan ddangos sut maen nhw’n debyg ²Ô±ð³Ü‵µ wahanol. Wrth drafod y cerddi dylet gyfeirio at y canlynol:

  • cynnwys a neges y cerddi
  • sut mae’r beirdd yn cyfleu eu syniadau ²Ô±ð³Ü‵µ creu awyrgylch yn y cerddi (nodweddion arddull, mesurau ac ati)
  • dy ymateb personol i’r cerddi

Wrth ateb, cofia ddyfynnu’n briodol a chyfeirio at enghreifftiau penodol i gefnogi dy sylwadau.

Mae geiriau bras yn yr enghraifft uchod. Meddylia beth yw eu hystyr yng nghyd-destun y cwestiwn.

Sut maen nhw’n debyg ²Ô±ð³Ü‵µ wahanol?

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i ti gymharu’r pethau sy’n codi yn y gerdd. O weld y datganiad cyntaf, mae’n debyg y bydd y cerddi yn y cwestiwn yn sôn am ddatblygiadau diwydiannol (fel Eifionydd). Yr hyn sydd angen i ti ei wneud yw dod o hyd i’r pethau mae’r beirdd yn eu trin yr un fath yn y cerddi a’r agweddau gwahanol maen nhw’n eu dangos tuag atynt hefyd.

1. Pan mae’r cwestiwn yn gofyn i ti drafod cynnwys a neges y cerddi mae’n golygu y dylet ti drafod y ³Ù³ó±ð³¾Ã¢³Ü mae’r beirdd yn ymdrin â nhw. Yn yr enghraifft benodol hon, datblygiad diwydiannol fyddai’r brif thema gan fod y cwestiwn yn datgan mai am dyna mae’r cerddi yn sôn.

2. Y cyfarwyddyd nesaf yw i ti ddweud sut mae’r beirdd yn cyfleu eu syniadau neu awyrgylch yn y cerddi. Mae hyn yn golygu dy fod di’n chwilio am nodweddion arddull, mesurau a defnyddio enghreifftiau i ddangos sut maen nhw’n adlewyrchu ²Ô±ð³Ü‵µ atgyfnerthu’r ³Ù³ó±ð³¾Ã¢³Ü rwyt ti am eu trafod. Er enghraifft, yn Eifionydd mae’r bardd yn darlunio harddwch cefn gwlad sydd heb ei ddatblygu er mwyn cyferbynnu â’r ardaloedd sydd wedi eu datblygu.

3. Yn olaf, mae’n gofyn i ti gyflwyno ymateb personol i’r cerddi. Ffordd ffansi o ofyn am dy farn di am y cerddi yw hyn. Mynega dy farn a chofia ddweud pam dy fod di’n credu hynny.

cynnwys a neges=³Ù³ó±ð³¾Ã¢³Ü
cyfleu syniadau ac awyrgylch=nodweddion arddull, mesurau ac ati
ymateb personol=mynegi barn
cynnwys a neges
=
³Ù³ó±ð³¾Ã¢³Ü
cyfleu syniadau ac awyrgylch
=
nodweddion arddull, mesurau ac ati
ymateb personol
=
mynegi barn