Clefyd coronaidd y galon
Mae’r rhydwelïau coronaidd yn cyflenwi gwaed i gyhyr y galon. Mae’r rhain yn gallu cael eu cau gan placiauDarnau brasterog sy’n ffurfio y tu mewn i rydwelïau. Maen nhw’n gallu atal neu gyfyngu ar lif y gwaed, gan achosi pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a strôc. sy’n cynnwys colesterolSylwedd brasterog sy’n cael ei alw’n lipid., gan arwain at glefyd coronaidd y galon.
Os ydy rhydweli goronaidd yn cau, mae’r cyflenwad gwaed i ran o’r galon yn cael ei dorri i ffwrdd. Dydy’r rhan honno o’r galon ddim yn gallu parhau i gyfangu, gan achosi trawiad ar y galon.
Achosion posibl clefyd coronaidd y galon
Mae’r rhain yn cynnwys:
- deiet gwael – mae bwyta mwy o braster dirlawnBraster sy’n cynnwys asidau braster dirlawn yn unig. Mae bwydydd sy’n cynnwys braster dirlawn yn cynnwys menyn, caws a hufen. yn tueddu i gynyddu lefelau cholesterol
- halen – mae bwyta gormod o halen yn achosi pwysedd gwaed uchel
- mae straen ac ysmygu yn cynyddu pwysedd gwaed
- diffyg ymarfer corff
- ffactorau genetig
Does dim ffordd berffaith o wella clefyd cardiofasgwlarYn ymwneud â’r galon a’r pibellau gwaed.. Mae llawer o wahanol fathau o driniaeth, ac mae manteision ac anfanteision i bob un.
Triniaeth | Disgrifiad | Manteision | Anfanteision |
Statinau | Meddyginiaeth ddyddiol i reoli lefel colesterol y gwaed | Mae’r cyffuriau’n gostwng lefelau colesterol y gwaed | Maen nhw’n gallu achosi sgil effeithiau |
Angioplasti | Llawdriniaeth i roi balŵn bach mewn pibell waed ac yna ei enchwythu i gael gwared ar rwystr | Gwella llif gwaed yn y pibellau gwaed coronaidd i atal trawiad ar y galon | Dim ond mesur dros dro yw hyn ar adegau |
Newidiadau i ffordd o fyw | Deiet ac ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu ac ati | Lleihau’r risg o glefyd y galon a gostwng pwysedd gwaed | Mae angen llawer o rym ewyllys i gynnal y newidiadau |
Statinau | |
---|---|
Disgrifiad | Meddyginiaeth ddyddiol i reoli lefel colesterol y gwaed |
Manteision | Mae’r cyffuriau’n gostwng lefelau colesterol y gwaed |
Anfanteision | Maen nhw’n gallu achosi sgil effeithiau |
Angioplasti | |
---|---|
Disgrifiad | Llawdriniaeth i roi balŵn bach mewn pibell waed ac yna ei enchwythu i gael gwared ar rwystr |
Manteision | Gwella llif gwaed yn y pibellau gwaed coronaidd i atal trawiad ar y galon |
Anfanteision | Dim ond mesur dros dro yw hyn ar adegau |
Newidiadau i ffordd o fyw | |
---|---|
Disgrifiad | Deiet ac ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu ac ati |
Manteision | Lleihau’r risg o glefyd y galon a gostwng pwysedd gwaed |
Anfanteision | Mae angen llawer o rym ewyllys i gynnal y newidiadau |