Â鶹ԼÅÄ

Pibellau gwaed

¸é³ó²â»å·É±ð±ôï²¹³Ü

  • Cludo gwaed i ffwrdd o’r galon (wedi ei ocsigenu bob tro heblaw am y sy’n mynd o’r galon i’r ysgyfaint).
  • Muriau cyhyrog trwchus.
  • Sianeli bach ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol).
  • Cynnwys gwaed dan bwysedd uchel.

Mae rhydwelïau yn cludo gwaed i ffwrdd o’r galon

Gwythiennau

  • Cludo gwaed i’r galon (heb ei ocsigenu bob tro heblaw am y sy’n mynd o’r ysgyfaint i’r galon).
  • Muriau tenau.
  • Sianeli mwy ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol).
  • Cynnwys gwaed dan bwysedd isel.
  • Falfiau i atal gwaed rhag llifo yn ôl.
Trawstoriad drwy wythïen yn dangos falf y wythïen.
Figure caption,
Trawstoriad drwy wythïen

°ä²¹±è¾±±ô²¹°ùï²¹³Ü

  • I’w cael yn agos at bob cell fyw yn y corff.
  • Microsgopig – muriau â thrwch un gell, mae hyn yn caniatáu trylediad sylweddau i mewn i’r celloedd o’r capilarïau ac allan o’r celloedd i mewn i’r capilarïau.
  • Pwysedd gwaed isel iawn.
Diagram yn dangos sut mae gwaed yn teithio drwy'r capilarïau. Mae'r gwaed yn symud o'r dde i'r chwith. Wedi'u labelu, o'r dde i'r chwith: rhydweli, rhydwelïyn, capilarïau, gwythiennig a gwythïen.
Figure caption,
Gwaed yn teithio drwy’r capilarïau

Adeiledd pibellau gwaed

Mae hi’n hawdd cymharu adeiledd y pibellau gwaed wrth edrych ar y trawstoriadau ohonynt (ddim i raddfa).

Trawstoriad drwy Rydweli, ³Ò·É²â³Ù³óï±ð²Ô a Chapilari. Mae haen gyhyr anrhesog fwy Trwchus ar y rhydweli, mae haen gyhyr anrhesog fwy Tenau ar y wythïen. Mae gan y ddwy Got allanol wydn, Endotheliwm a Lwmen.
Rhydweli³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔCapilari
Math o waedOcsigenedigDadocsigenedigY ddau
CyfeiriadOddi wrth y galonTuag at y galonO’r rhydwelïau i’r gwythiennau
PwyseddUchelIselIsel
Maint y twll (lwmen)BachMawrBach iawn
Trwch y muriauTrwchusTenauTrwch un gell
FalfiauNaOesNa
Math o waed
RhydweliOcsigenedig
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔDadocsigenedig
CapilariY ddau
Cyfeiriad
RhydweliOddi wrth y galon
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔTuag at y galon
CapilariO’r rhydwelïau i’r gwythiennau
Pwysedd
RhydweliUchel
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔIsel
CapilariIsel
Maint y twll (lwmen)
RhydweliBach
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔMawr
CapilariBach iawn
Trwch y muriau
RhydweliTrwchus
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔTenau
CapilariTrwch un gell
Falfiau
RhydweliNa
³Ò·É²â³Ù³óï±ð²ÔOes
CapilariNa