Â鶹ԼÅÄ

Y galon

Organ cyhyrog ydy’r a’i gwaith ydy pwmpio gwaed. Mae cyhyr cardiaidd y galon yn cyfangu i bwmpio’r gwaed o’r atria ¾±â€™r fentriglau ac o’r fentriglau ¾±â€™r rhydwelïau. Mae angen egni o resbiradaeth er mwyn i gyhyr cardiaidd y galon ddal i gyfangu, ac mae’r rhydwelïau coronaidd yn cyflenwi glwcos ac ocsigen iddo er mwyn gwneud hyn.

Diagram yn dangos y cylchedau ysgyfeiniol a hollgorffol. Mae'r gylched ysgyfeiniol yn cludo gwaed o'r galon i'r ysgyfaint. Mae'r gylched hollgorffol yn cludo gwaed o'r galon i weddill y corff.

²Ñ²¹±ð’r ochr dde yn pwmpio gwaed drwy’r , ac mae’r ochr chwith yn pwmpio gwaed drwy’r .

Dau bwmp ar wahân

Yn gyffredinol, mae gwaed yn llifo i mewn i un ochr o’r galon o , yn mynd i mewn i , yna i , ac allan drwy . Mae gwahanfur yn gwahanu’r ochr dde a’r ochr chwith.

Trawstoriad o'r galon. Wedi'u labelu: Rhydweli ysgyfeiniol, Aorta, G·É²â³Ù³óï±ð²Ô ysgyfeiniol, Atriwm chwith, Falf ddwylen, Fentrigl chwith, Fentrigl de, Gwahanfur, Falf deirlen, Atriwm de a Fena cafa.
Figure caption,
Prif rannau’r galon, mewn trawstoriad o’r blaen

²Ñ²¹±ð’r gwaed ar ochr dde’r galon yn ddadocsigenedig. Mae wedi bod o gwmpas y corff gan ddefnyddio celloedd coch y gwaed i gludo ocsigen i’w gyflenwi ¾±â€™r celloedd. Erbyn hyn, mae’r ocsigen wedi’i ollwng ac mae’r gwaed yn mynd i mewn ¾±â€™r galon drwy’r brif ·É²â³Ù³óï±ð²Ô, y fena cafa i mewn ¾±â€™r atriwm de.

²Ñ²¹±ð’r atriwm de yn cyfangu ac yn gwthio’r gwaed i mewn ¾±â€™r fentrigl de sydd yn ei dro’n cyfangu gan wthio’r gwaed allan o’r rhydweli ysgyfeiniol ¾±â€™r ysgyfaint i gael ei ocsigenu.

Mae gwaed nawr yn dychwelyd i ochr chwith y galon drwy’r ·É²â³Ù³óï±ð²Ô ysgyfeiniol. Mae’n mynd i mewn ¾±â€™r atriwm chwith sy’n cyfangu i wthio’r gwaed i mewn ¾±â€™r fentrigl chwith. Mae gan y fentrigl chwith fur cyhyrog trwchus i ddarparu digon o bwysedd i bwmpio’r gwaed ocsigenedig i fannau pellaf y corff.

Mae gwaed yn gadael y galon drwy’r brif rydweli, yr aorta.

²Ñ²¹±ð’r galon yn cynnwys falfiau sy’n cau i atal ôl-lifiad o’r gwaed:

  • mae gan yr ochr dde falf deirlen (falf â thri fflap)
  • mae gan yr ochr chwith falf ddwylen (falf â dau fflap)

Mae gan y ddwy ochr falfiau cilgant – ar y ffordd i mewn ¾±â€™r rhydweli ysgyfeiniol a’r aorta.

Curiad calon

Dyma sut mae’r galon yn gweithredu.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Trawstoriad o'r galon yn dangos sut mae gwaed dadocsigenedig o'r corff yn mynd i mewn i'r atriwm de. Mae'r atria'n ymlacio a gwaed ocsigenedig o'r ysgyfaint yn mynd mewn i'r atriwm chwith., Swyddogaethau’r galon

²Ñ²¹±ð’r galon yn pwmpio gwaed mewn dwy ffordd