Â鶹ԼÅÄ

Platennau

Ceulo’r gwaed

Os ydy’r croen yn cael ei dorri, mae’n rhaid cau’r clwyf i atal colli gwaed ac i gyrraedd y corff. Bydd crachen yn ffurfio er mwyn cyflawni hynny.

Mae gwaed yn cynnwys darnau bach iawn o gelloedd, sef y platennau. Mae’r platennau hyn yn cyfrannu at geulo’r gwaed a ffurfio crachen.

Ffurfio crachen

Pan mae croen yn cael ei glwyfo, mae platennau yn gallu:

  • rhyddhau cemegau sy’n achosi i broteinau hydawdd ffurfio rhwyll o ffibrau ar draws y clwyf
  • glynu gyda’i gilydd i ffurfio clystyrau sy’n cael eu dal yn y rhwyll

Mae celloedd coch y gwaed hefyd yn cael eu dal yn y rhwyll ffibrin, gan greu tolchen. Mae hyn yn datblygu yn grachen, sy’n amddiffyn y clwyf wrth iddo wella.

Mae crachen yn ffurfio pan mae platennau yn glynu yn y rhwyll ffibrin

Plasma

Hylif lliw gwellt yw , a dyma beth yw ychydig dros hanner cyfaint gwaed. Mae gan y plasma lawer o swyddogaethau:

  • cludo carbon deuocsid o gelloedd sy’n resbiradu i’r ysgyfaint
  • cludo bwyd wedi’i dreulio o’r coluddyn bach i gelloedd sy’n resbiradu
  • cludo wrea o’r iau i’r arennau i’w ysgarthu
  • dosbarthu gwres o gwmpas y corff i gyd
  • cludo hormonau o'r chwarennau lle maen nhw'n cael eu gwneud i’r organau targed