Â鶹ԼÅÄ

Datrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn

Efallai y bydd gofyn i ti ddatrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn yn dy arholiad. Mae’n bwysig iawn dy fod yn llunio’r diagram Venn ac yn ychwanegu gwybodaeth ato wrth i ti fynd yn dy flaen. Bydd hyn yn dy helpu i gadw gorolwg o’r hyn sy’n digwydd.

Enghraifft

  • Cwblhawyd holiadur gan 100 o bobl a wnaeth ymweld â Gŵyl Bitesize
  • Roedd pob un o’r 100 o ymwelwyr wedi gweld o leiaf un o’r bandiau canlynol – Band X, Band Y a Band Z
  • Roedd 14 o’r ymwelwyr wedi gweld Band X a Band Y ac, o’r rhain, roedd 3 wedi gweld y bandiau i gyd
  • Roedd 36 person wedi gweld Band X
  • Roedd 55 person wedi gweld Band Y
  • Roedd 53 person wedi gweld Band Z

Rhoddir mwy o wybodaeth ar y diagram Venn isod:

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Band X’, un arall yn ‘Band Y’ a’r llall yn ‘Band Z’.

Faint o ymwelwyr a oedd wedi gweld Band X ond nid Band Y na Band Z?

Ateb

Yn gyntaf, cyfrifa faint o bobl a welodd Band X a Band Y yn unig:

14 – 3 = 11

Mae 11 o ymwelwyr wedi gweld Band X a Band Y yn unig. Gallwn nawr lenwi hyn ar ein diagram.

Os edrychwn ni nawr ar gylch Band Y, mae gennyn ni’r holl rannau’n gyflawn, ar wahân i un.

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Band X’, un arall yn ‘Band Y’ a’r llall yn ‘Band Z’.

Nawr adia’r rhifau sydd gennyn ni hyd yma yng nghylch Band Y:

20 + 11 + 3 = 34

Fe weli fod gennyn ni 34 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 55 person wedi gweld Band Y:

55 – 34 = 21

Mae 21 person ar ôl ac mae’r rheini’n mynd yn y rhan wag. Felly, mae 21 person wedi gweld Band Y a Band Z.

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Band X’, un arall yn ‘Band Y’ a’r llall yn ‘Band Z’.

Os edrychwn ni nawr ar gylch Band Z, mae gennyn ni’r holl rannau’n gyflawn, ar wahân i un. Os adiwn ni’r holl rifau sydd gennyn ni hyd yma yng nghylch Band Z:

23 + 21 + 3 = 47

Fe weli fod gennyn ni 47 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 53 person wedi gweld Band Z:

53 – 47 = 6

Felly mae 6 pherson ar ôl i fynd yn y rhan sydd wedi ei gadael yn wag. Mae 6 pherson wedi gweld Band Z a Band X, gallwn nawr lenwi hyn ar ein diagram Venn.

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Band X’, un arall yn ‘Band Y’ a’r llall yn ‘Band Z’.

Yn olaf, os edrychwn ni nawr ar gylch Band X, mae gennyn ni bob un o’r rhannau’n gyflawn, ar wahân i un. Beth am i ni adio’r rhifau sydd gennyn ni hyd yma yn y cylch hwn:

11 + 6 + 3 = 20

Fe weli fod gennyn ni 20 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 36 person wedi gweld Band X:

36 – 20 = 16

Felly mae 16 person dros ben i fynd yn y rhan sydd wedi ei gadael yn wag. Gallwn nawr lenwi hwn ar ein diagram Venn.

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Band X’, un arall yn ‘Band Y’ a’r llall yn ‘Band Z’.

Roedd 16 ymwelydd wedi gweld Band X, ond nid Band Y na Band Z.

Datrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn

Beth am i ni edrych ar ymarfer gwahanol i ddatrys problemau drwy ddefnyddio diagramau Venn? Cofia lunio’r diagram Venn ac ychwanegu gwybodaeth ato wrth i ti fynd yn dy flaen. Bydd hyn yn dy helpu i gadw gorolwg o’r hyn sy’n digwydd.

Cwestiwn

Mae 150 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n sefyll rhai, os nad pob un, o’r arholiadau canlynol: Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

  • Mae 15 disgybl yn sefyll Saesneg a Mathemateg ond nid Gwyddoniaeth
  • Mae 20 disgybl yn sefyll Gwyddoniaeth a Mathemateg ond nid Saesneg
  • Mae 18 disgybl yn sefyll Gwyddoniaeth a Saesneg ond nid Mathemateg
  • Mae 8 disgybl yn sefyll y tri arholiad
  • Mae cyfanswm o 65 yn sefyll yr arholiad Gwyddoniaeth
  • Mae cyfanswm o 55 yn sefyll yr arholiad Saesneg
  • Mae cyfanswm o 72 yn sefyll yr arholiad Mathemateg

Faint o ddisgyblion sydd ddim yn sefyll unrhyw un o’r arholiadau hyn?

Ateb

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Saesneg’, un arall yn  ‘Mathemateg’ a’r llall yn ‘Gwyddoniaeth’.

Gelli weld mai dim ond un rhan sydd ar goll ymhob cylch. Gan ein bod yn gwybod cyfanswm y nifer a gymerodd bob pwnc, gallwn gyfrifo’r rhannau hynny sydd ar goll.

Gwyddoniaeth

  • 20 + 18 + 8 = 46
  • Mae cyfanswm o 65 yn sefyll Gwyddoniaeth
  • 65 – 46 = 19
  • Mae 19 disgybl yn sefyll Gwyddoniaeth yn unig

Mathemateg

  • 20 + 15 + 8 = 43
  • Mae 72 yn sefyll Mathemateg
  • 72 – 43 = 29
  • Mae 29 disgybl yn sefyll Mathemateg yn unig

Saesneg

  • 18 + 15 + 8 = 41
  • Mae 55 disgybl yn sefyll Saesneg
  • 55 – 41 = 14
  • Mae 14 disgybl yn sefyll Saesneg yn unig

Gallwn nawr lenwi'r diagram â'r wybodaeth hon.

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Saesneg’, un arall yn  ‘Mathemateg’ a’r llall yn ‘Gwyddoniaeth’.

Gad i ni adio’r gwerthoedd sydd gennyn ni hyd yma:

14 + 15 + 18 + 19 + 20 + 8 + 29 = 123

Nawr tynna hwn o gyfanswm nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 11:

150 – 123 = 27

Felly rydyn ni’n gwybod y bydd 123 disgybl yn sefyll arholiadau, a chan fod yna 150 disgybl yn y flwyddyn, mae’n rhaid nad yw 27 disgybl yn sefyll unrhyw arholiad o gwbl.