Â鶹ԼÅÄ

Diagramau Venn

Mae diagramau Venn yn lluniadau defnyddiol iawn wedi eu gwneud o ddau neu fwy o gylchoedd sydd weithiau’n gorgyffwrdd. Mae diagramau Venn yn aml yn ymddangos mewn nifer o feysydd mathemategol ond, ran amlaf, pan fyddwn yn ymdrin â setiau a thebygolrwydd.

Edrycha ar y diagram Venn hwn:

Diagram Venn yn dangos dau gylch yn gorgyffwrdd. Mae un cylch wedi ei labelu’n ‘Set A’ a’r llall yn ‘Set B’.

Mae’n dangos bod Set A = {1, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12} a Set B = {2, 3, 4, 6, 7, 9, 11, 12, 13}

Os edrychwn ni ar y rhan sy’n gorgyffwrdd yn y diagram Venn, mae hyn yn cynrychioli A ∩ B = {6, 7, 9, 12} (Croestoriad A a B). Mae hyn yn cynnwys y rhifau sydd yn Set A a Set B.

Drwy edrych ar y ddau gylch yn eu cyfanrwydd, cawn A ∪ B = {1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13} (Uniad A a B).

Dwy set

Mae’r diagram Venn isod yn dangos dwy set arall ar ffurf graffigol. Mae’r setiau’n cynrychioli gwybodaeth am ddwy chwaer - Leah (L) a Kelly (K) a’u diddordebau.

Gallen ni ysgrifennu’r setiau fel L = {darllen, chwarae pêl-rwyd, darlunio} a K = {dawnsio, sglefrio, gwrando ar gerddoriaeth}.

O’r diagram, gwelwn nad oes croestoriad (L ∩ K = {}) sy’n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordebau’n gyffredin.

Uniad y ddwy set hyn fyddai’r set sy’n cynnwys diddordebau Leah a Kelly:

L ∪ K = {darllen, chwarae pêl-rwyd, darlunio, dawnsio, sglefrio, gwrando ar gerddoriaeth}

Diagram Venn gyda dau gylch – un wedi ei labelu’n ‘Leah’ a’r llall yn ‘Kelly’.

Rho dro ar ateb y cwestiynau hyn:

Question

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd. Mae un cylch wedi ei labelu’n ‘Set A’ a’r llall yn ‘Set B’.

Rhestra’r eitemau yn:

  • Set A
  • Set B

Question

Rhestra groestoriad ac uniad y diagram Venn hwn:

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd. Mae un cylch wedi ei labelu’n ‘Set A’ a’r llall yn ‘Set B’.