Â鶹ԼÅÄ

Tair set neu fwy mewn diagram Venn

Mae’n bosib i ddiagram Venn ddisgrifio tair (neu fwy) o setiau.

Enghraifft

Gofynnwyd i set o ddisgyblion pa chwaraeon oedden nhw’n eu chwarae yn yr ysgol. Fe gawson nhw’r opsiynau hyn: Pêl-droed, Hoci, Pêl-rwyd a Dim.

Mae rhestr lawn y disgyblion yn ffurfio’r set gynhwysol U {thomas, sean, chris, sarah, freya, sophie, noah, melanie, jayne, carrie, alex}

Yna mae tair set arall i’w hystyried.

Pêl-droed (F) = {thomas, sean, chris, sarah, freya, sophie}

Hoci (H) = {noah, thomas, chris, sophie, jayne}

Pêl-rwyd (N) = {carrie, sophie, jayne, alex, freya}

Dim = {melanie}

Gallwn ddangos yr holl wybodaeth yn hawdd ar ddiagram Venn:

Diagram Venn gyda thri chylch yn gorgyffwrdd. Un wedi ei labelu’n ‘Pêl-droed’, un arall yn ‘Hoci’ a’r llall yn ‘Pêl-rwyd’.
  • Y rhan y byddai Sophie ynddi fyddai F ∩ H ∩ N, hynny yw, croestoriad y tair set.
  • I ddisgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Freya ynddi, bydden ni’n ysgrifennu F ∩ N - F ∩ H ∩ N, hynny yw, croestoriad pêl-droed a phêl-rwyd minws croestoriad y tri gyda’i gilydd.
  • Bydden ni hefyd yn disgrifio’r rhan mae Freya ynddi fel F ∩ N ∩ H', hynny yw, croestoriad y set ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd ac nid hoci.

Question

Gan ddefnyddio nodiant set, sut byddet ti’n disgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Noah ynddi?

Question

Gan ddefnyddio nodiant set, sut byddet ti’n disgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Chris, Thomas a Sophie ynddi?