Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
O'r chwith (cefn) Rheon Roberts, Y Parch Jen Williams, Geraint Elfyn Jones, Alun Lenny (Blaen) Siân Elfyn Jones, Y Parch T. Elfyn Jones, Fflur Dafydd, Menna Elfyn Seinio Clod
Tachwedd 2005
Daeth llu o gyfeillion a chyn-aelodau ynghyd i Gapel Peniel nos Iau, 22ain Fedi, 2005 i gyfarfod lansio 'Seinio Clod' (Gwasg Morgannwg.)
Cyfrol o emynau a detholiad o homilïau y Parch T. Elfyn Jones. Bu'n gweinidogaethu ym Mheniel a Bwlchycorn am bron i ddau ddegawd.

Llywyddwyd y cyfarfod gan y gweinidog presennol, sef y Parchedig Ken Williams. Canodd y gynulleidfa emyn o'r gyfrol sef 'O doed dy deyrnas, Nefol Dad' i ddechrau'r cyfarfod ac yna darllenwyd dwy homili a ymddangosodd ym Mhapur y Cwm, gan ysgrifenyddion y ddwy eglwys, Mr. Rheon Roberts a Mr. Alun Lenny.

Tro plant yr Ysgol Sul ydoedd wedyn i adrodd a chanu'n swynol yr emyn plant, "Tydi sy'n deffro'r adar'. Cafwyd unawd gan ŵyres yr emynydd, Fflur Dafydd o'r emyn 'Drugarog Dduw, gerbron dy orsedd Di'. Ar ôl gair gan Lywydd yr Undeb, y Parchedig Gareth Morgan Jones, sydd yn olynydd i T. Elfyn Jones yn y Tabernacl, Pontardawe, cafwyd anerchiad gan fab yr emynydd, Geraint Elfyn Jones.

Tynnodd sylw'r gynulleidfa at y cyfeiriadau yn y Beibl at 'emyn' ac yna at rai nodweddion yng ngwaith ei dad cyn cloi ei araith drwy ddweud bod neges yr efengyl o fewn cyrraedd pawb, "Nid yw'r ffordd ymhell o UNMAN /Yng ngoleuni ei Seren Ef."

Yna, darllenodd Mrs Gwyneth Williams stori'r emyn 'O Arglwydd, anfon newyn" cyn iddo gael ei ganu gan y gynulleidfa i gloi'r noson.

Paratowyd lluniaeth helaeth gan wragedd y ddwy eglwys a mawr oedd y croeso a'r llawenydd yn y festri wrth gymdeithasu a phrynu copi o'r llyfr. Dywed merch yr emynydd, Menna Elfyn, mewn erthygl papur dyddiol: "Yn y festri honno, yr oedd yna haelioni a llawenydd a oedd yn falm i'r galon, ac yn sicr i henwr, yn fodd i fyw." (W.M. 29/09/05.)

Dymuna'r teulu ddiolch am yr holl gefnodaeth garedig.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý