Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Swyddogion cangen Merched y Wawr Llanddraog Ar daith i'r brifddinas
Hydref 2007
Merched y Wawr Llanddarog yn mwynhau celfyddyd yn y brifddinas, ar daith i'r Amgueddfa Genedlaethol.

Fis Gorffennaf eleni bu aelodau o'r gangen ynghyd â chyfeillion, perthnasau a ffrindiau ar ymweliad â'r Brifddinas. Dan nawdd arian y loteri y sicrhawyd bws i'w cludo i'r Amgueddfa Genedlaethol gyda'r bwriad o gael gweld casgliad arbennig iawn y Chwiorydd Davies, Gregynog, o gerfluniau yn ogystal â darluniau amhrisiadwy o waith artistiaid byd-enwog fel Renoir a Monet, Cezanne a Van Gogh yn dirluniau ac yn bortreadau, sy'n eiddo i'r genedl. Gwledd amheuthun, yn sicr, oedd symud o lun i lun o waith y Meistri, a'r rheiny wedi'u harddangos yn y drefn y prynwyd hwy gan Gwendoline a Margaret Davies.

Gyda thywysydd Cymraeg fe'n harweiniwyd ar hyd llwybr hanes magu ac addysgu'r chwiorydd a dod i ddeall mor llym oedd eu credoau crefyddol Methodistiaeth Calfinaidd. Ystyrient elusengarwch a gwasanaeth i'r cyhoedd yn ddyletswydd ac wedi etifeddu cyfoeth eu taid, yr athrylith o beiriannydd a diwydiannwr, David Davies, aent ati i brynu arlunweithiau yn ôl cyfarwyddyd proffesiynol yn ogystal â chwaeth bersonol.

Ymhyfrydent mewn perffeithrwydd ac ym mhob agwedd ar fywyd a chelf, ac amlygir hynny ymhellach gan y celfi a brynasent i'w cartref ac yn y llyfrau cain a argraffwyd gan Wasg Gregynog sydd hefyd yn rhan o'r arddangosfa.

Yn sicr, cawsom gymaint gwefr o ganfod a gweld, nes i rai o'n haelodau dreulio'r dydd ar ei hyd yn yr Amgueddfa, ond wedi ymlacio dros ginio yn y ffreutur wrth gwrs! Gyda mynediad am ddim beth sydd i'n rhwystro rhag ymweld eto cyn bo hir? Melys moes mwy!

Er mai i siopa yr aethai llawer o'r fintai yn y prynhawn, ymwelodd eraill â'r Castell er mwyn cael ymweld â stafelloedd moethus a hardd y teulu Bute. Cawsom bleser mwy o'r ymweliad gan i ni gael ein tywys gan wraig frwdfrydig a gwybodus. Gwnaeth y Sgotyn, yr Arglwydd Bute, a dreuliai ond rhyw chwe wythnos o'r flwyddyn yn ei gastell yng Nghaerdydd, ond a ddodrefnodd ac a addurnodd ei dŷ haf, dro da â Chymru! Fe'i derbyniasom yn rhodd ganddo. Dyna i chi haelioni.

Cyn troi am adre' cawsom gyd swpera yn y Bae i gloi diwrnod cofiadwy o bleserus, gyda'r hin yn dda, y cwmni'n gytun, a'r profiadau yn wefreiddiol.

Yn y llun fe welir swyddogion y gangen yn dal y siec am £2,940 a alluogodd y gymdeithas ymledu ei hapêl. Ehangwyd ein gorwelion ni, ac eraill, gan ein gwneud yn falchach o'n sefydliadau cyhoeddus ac yn fwy ymwybodol o gymwynaswyr mawr y gorffennol.

  • Mwy am Chwiorydd Davies Gregynog

  • [an error occurred while processing this directive] 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý