Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Moelfre Crwydriaid Crwbin
Gorffennaf 2005
Aeth Crwydriaid Crwbin ar eu gwibdaith flynyddol eleni i Ogledd Cymru yn gynnar ym mis Mai, ac ymweld a Sir Fôn oedd eu dewis.

Roedd y trefniadau teithio yn nwylo Elwyn Jones o'r Crwydriaid, gyda Gwyn Parri o Ddeiniolen yn gyfrifol am drefniadau'r penwythnos yn y Gogledd. Cyrraedd gwesty y Ciali' erbyn cinio nos Wener, a chael croeso arbennig gan Robert a Carys y perchenogion ac yn wir cafwyd croeso twymgalon Cymreigaidd gan gwsmeriaid y Ciali a phawb yn siarad Cymraeg.

Pleser mawr oedd cymdeithasu gyda hwynt a theimlo ar unwaith fod amser diddorol a hapus o'n blaen. Mae'r Ciali, neu Y Califfornia' i roi enw cywir y gwesty ym mhentref Brynteg, gerllaw Benllech, ac o fewn cyrraedd pentref hanesyddol glan y môr Moelfre.

Roedd Carys a'i staff wedi paratoi cinio blasus dros ben i'r criw erbyn iddynt gyrraedd ar ôl eu siwrnai o'r de. Mae'n rhaid cydnabod gyrrwr mentrus y bws, sef Haydn Scaife, sydd yn yrrwr datblygedig, ac efe fu wrth y llyw dros y cyfnod. Codi'n gynnar fore Sadwrn ac ar ôl mwynhau brecwast Cymreigaidd gyda Carys, cyfarfod â'r gogleddwr enwog J. O. Roberts, a oedd wedi ei benodi i'n tywys i safleoedd arbennig o ddiddorol ym Môn. Mae pawb yn adnabod 'J.O.' fel actor a hefyd tad Nia sydd yn adnabyddus ar Radio Cymru a S4C, a Gareth, cyflwynydd Y Clwb Rygbi' ar S4C. Ar unwaith teimlwyd yn gyfforddus yng nghwmni cyfeillgar J.O.

Ar ôl teithio a gweld safle yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanbedrgoch ym 1999, cyrraedd Afon Menai a chroesi i Ynys Tysilio i fynwent Eglwys Sant Tysilio, sydd yn dyddio o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent mae beddau rhai o Gymry enwog yn cynnwys Cynan (1895-1970) a'r 'Bardd Cocos' sef John Evans, a fu farw ym 1888.

Gadael Ynys Tysilio ym Mhorthaethwy a symud ymlaen i fynwent Eglwys Llanfaes, i weld beddau John Elias (1774-1841) a John Williams (1854-1921) un o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid, ac un o brif gedyrn pulpud Cymru. Symud ymlaen wedyn i weld Priordy Penmon gyda'r Colomendy enwog, a chyrraedd Trwyn Du i weld y goleudy ac Ynys Seiriol.

Gorffennwyd y daith ym Miwmares, un o drefi mwyaf diddorol Ynys Môn ym myd hanes. Mae'r castell a adeiladwyd ym 1295 yn un o'r cestyll mwyaf rhyfeddol o gyfnod y Normaniaid. Hefyd ym Miwmares mae cyfle arbennig i weld Llys, a godwyd ym 1614, a Charchar y Dre lle mae cyfle i weld byd y carcharor yn ystod oes Fictoria. Nid yw'r Carchar yn lle i'r gwangalon i ymweld ag ef, ond dylai pobol Sir Gaerfyrddin fynd yno a thalu ymweliad â'r Llys hefyd i weld y modd mae gwarchod hen adeiladau pwysig yn hanes Cymru.

Ymunodd Gwyn Parri â'r cwmni pan ddaeth yn amser cinio, ond fe ddaeth un galwad ffôn oddi wrtho yn ystod y bore, i ddweud wrthym am beidio a gorfwyta, oherwydd roedd gwledd yn ein disgwyl gydag un o aelodau Côr y Traeth yn ystod y prynhawn. Gan ymateb i gyngor Gwyn cafwyd cinio ysgafn yn y Fourcrosses ym Mhorthaethwy, a chafwyd cyfle i weld ar y teledu Llanelli yn curo Pontypridd yn gêm derfynol Cwpan Cymru.

Parhau oedd y croeso pa le bynnag aeth y Crwydriaid, a gyda Haydn wrth y llyw a Gwyn fel morlywydd, dyma groesi Môn a chyrraedd cartref Hywel Rowlands Rhyd Caradog, Llandrygan. Roedd ei breswylfan fel y pin o lan, y lawntiau yn gymen, a doedd dimsyniad gan y Crwydriaid o'r lletygarwch oedd i ddilyn.

Roeddwn ar ddeall mai galw i weld y Scarlets yn chwarae yn erbyn y Gweilch ar y teledu oedd y bwriad, ond pan ddechreuodd y gêm, dyma Hywel a Gwyn fel gweinyddion yn serfio unrhyw ddiod yn ychwanegol i de a choffi, ac yn dilyn cafwyd brechdanau o gig eidion wedi ei gwcio yn berffaith, a rheini yn dod i fewn i'r lolfa ar felt symudol. 'Does dim dwywaith, prin y profir cystal lletygarwch gan y Crwydriaid. Esgus Hywel oedd fod dyled arno i Gwyna'i wraig annwyl, Annette Bryn Parri, y gyfeilyddes enwog, ac roedd estyn croeso a lletygarwch i'w ffrindiau pan oeddynt yn ymweld ag Ynys Môn, yn ffordd iddo ddangos ei werthfawrogiad a'i edmygedd ohonynt.

Ar ôl gweld yr hen dractor, Massey Ferguson J130 ar y clos, a hwnnw fel newydd, roedd yn amser i baratoi i fynd i gyngerdd y nos yng nghwmni Hywel. Wedi cyrraedd Llanddeusant pen draw Ynys Môn, a newid bws dyma'r Crwydriaid yn cyfarfod â'r hen gyfeillion, Arwel, Elwyn a Myrddin, sef, Hogia'r Wyddfa, ac wrth gwrs eu cyfeilydd, Annette Bryn Parri, a dyna gwmnïa gwresog.

Pwrpas y noson mewn pabell ar dir Melin Llynnon, oedd gwrando ar Dai Jones, Llanilar, yn sgwrsio â phobl lleol yn gyntaf, yna gwrando ar hen ganiadau'r Hogia, a'r unawdydd o Ddihewyd, Doreen Lewis. Roedd wyth cant yn y babell, a phawb yn cael bwyd a diod yn ystod yr hanner amser, gyda mochyn cyfan yn cael ei rostio, y trefniadau yn nwylo staff Cyngor Sirol Ynys Môn. Yn ystod yr ail banner bu Dai Jones yn sgwrsio â'r adnabyddus Mererid Hopwood, a Gerallt Pennant. Cyn diwedd y gyngerdd roedd rhaid i'r Crwydriaid, Gwyn Parri a'r gŵr gorgaredig Hywel Rowlands deithio 'nôl i Califfornia ym Mrynteg lle roedd eu ffrindiau, y bobl lleol yn aros amdanynt.

Mewn byr amser dyma'r Hogia ac Annette yn ymuno â'r cwmni. Fe all y darllenwr ddychmygu y naws arbennig yn y 'Ciali', yn enwedig ar ôl deall bod y Scarlets yn fuddugol yn erbyn Y Gweilch ar y Strade. Ar ôl i'r Hogia a'u cwmni ymadael, cawsom gwmni arall, sef, tri o gantorion un o'r corau lleol, a bu canu brwd am oriau.

Fore Sul, dyma'r Crwydriaid yn paratoi am y siwrne adref, ond cyn croesi i'r tir mawr penderfynu mynd i Moelfre i gael hanes morwrol y pentref, yn cynnwys y 'Thetis' y llong danfor a suddodd ym Mehefin, 1939, pryd boddwyd 90 o forwyr; Y Royal Charter', y llong haearn, a longddrylliwyd yn Hydref, 1859, pryd y boddwyd 483 o'r bobl, a gweld y gofeb i Dic Evans (1905-2001) y llywiwr dewr.

Ni fyddai yn bosib cael yr holl brofiadau ac ystyried cyfoeth ein gwlad oni bai am y frawdoliaeth, ac y mae yn profi mai teithio fel grŵp sydd orau bob amser, ond mae'n rhaid cael trefnwyr o ardderchowgrwydd.

Donald Willaims


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý