Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Elen ac Elis o flaen wagen yng ngardd y Ty Capel O'r Wladfa
Mai 2002
Cyfweliad gydag Elis Williams, Trevelin.

Os byth y byddwch yn Nhrevelin ac wedi crwydro ar eich pen eich hun i gyfeiriad y Capel Cymraeg, ar eich taith byddwch yn siwr o ddod ar draws y bonheddwr Elis Williams.

Elis yw gofalwr answyddogol y Capel ac yn fwy arbennig y Ty Capel lle mae athrawon y prosiect yn byw.

Nid yw'n cael ei dalu ac nid oes cyfweliad wedi bod am y swydd ond mae Elis yn cymryd ei waith yn fwy o ddifri nac unrhyw ofalwr swyddogol dwi wedi clywed amdano erioed.

Pan oeddwn yn byw yn y fflat yn Esquel os nad oedd gwersi ymlaen gallwn fynd am ddiwrnodau heb weld neb ac yn wir pan gefais y bronchitis ofnadwy a ddechreuodd droi yn niwmonia roeddwn wedi bod yn fy ngwely am ddau ddiwrnod cyn i neb ddod o hyd i mi gan i mi fynd yn dost yn ystod y penwythnos.

Mae'r Ty Capel lle dwi'n byw yn awr mewn lle tipyn mwy unig gyda dim ond caeau o'i amgylch, ond mae gen i'r tawelwch meddwl petawn yn sâl eto y byddai Elis yn dod o hyd i mi y bore cyntaf y byddwn yn sâl.

Yn yr un modd y mae'n sicrhau bod y golau ymlaen i oleuo fy llwybr pan fydda i wedi bod yn dysgu yn Esquel a heb gyrraedd yn ôl tan ei bod wedi tywyllu. Mae Elis Williams yn enghraifft ardderchog o gymydog.

Dywedwch wrthyf Elis beth yw hanes eich teulu?

Mi ddaeth fy nhad yma ar y llong Oreta. Roedd yn un o'r criw olaf a ddaeth fel criw yn y flwyddyn 1911.

Daeth o Drawsfynydd yn fachgen sengl gyda'i frawd a'i Ewythr Willie. Roedd ei frawd Yncl Bob yn y Dyffryn (ardal y Gaiman, Trelew etc.) yn barod ac fe aeth Willie i fyw yn agos ato ond fe benderfynodd Tada ddod i fyny i'r Cwm. Ei enw oedd Owen Williams.

Roedd mam wedi ei geni yma. Roedd hi'n un o blant Cansas Jones ac Awstin oedd cyfenw ei thad.

Beth oedd iaith eich aelwyd felly Elis pan oeddech chi'n tyfu i fyny?

Roedd pob un o fy nheulu yn Gymry a Chymraeg wrth gwrs oedd iaith y teuluoedd hynny i gyd. Roedd fy nhad yn un o'r olaf i ddod â'r freuddwyd o Gymru pen arall y byd yn dal i losgi yn ei galon, felly Cymraeg wrth gwrs oedd iaith y teulu.

Mi aeth fy mrawd hynaf i'r ysgol heb fod yn gallu siarad yr un gair o Spanis. Roedden ni'n bedwar brawd, Glyndwr, Geraint, Gwynfor a finne.

Wel dyna i chi ryfedd Elis, mae gen i ddau frawd o'r enw Glyndwr a Geraint! Ydych chi i gyd yn byw yn lleol?

Dim ond fi a Glyndwr sydd ar ôl erbyn hyn. Mae Glyndwr yn byw yn Barioche. Mae e'n gweithio yn y lle sgïo.

Y diwrnod o'r blaen gwelodd rhywun yn edrych ar goll a dim gair o Sbaeneg ganddyn nhw. Gofynnon nhw i Glyndwr: Do you speak English? Dywedodd Glyndwr wrthyn nhw ei fod yn siarad Cymraeg. Wel roedden nhw wrth eu bodd! Roedden nhw'n mynd i'w weld bob dydd i ofyn rhywbeth iddo ac i gael help am rywbeth.

Oes gennych chi deulu yng Nghymru Elis?

Oes, mae Garffild Lewis sy'n gweithio i'r Â鶹ԼÅÄ yn perthyn i mi. Mi fuodd yma rai blynyddoedd yn ôl ond yn anffodus roeddwn i i ffwrdd yn gweithio yn Locorte ar y pryd.

Hefyd mae Elvira sydd wedi cael ei magu fel chwaer i ni wedi mynd i fyw i Gymru. Mi briododd a mynd i fyw i'r Almaen ond mae wedi bod yn ôl yng Nghymru ers 17 mlynedd. Mae'n byw nawr ym Mhort Talbot ac mae ei gwr wedi bod yn mynd i gael gwersi Cymraeg fel bod y teulu i gyd yn siarad Cymraeg.

Ar ôl bod ar ei wyliau yma a chlywed pobol yn siarad Cymraeg aeth yn ôl i Gymru yn benderfynol o ddysgu Cymraeg. Roedd e'n teimlo cywilydd ei fod yn byw yng Nghymru ac yn methu siarad Cymraeg tra roedd pobol yma yn gallu gwneud hynny.

Hoffech chi fynd i Gymru?

(Fan hyn mae Elis yn gwenu ac yn codi ei ysgwyddau fel petai yn dweud nad oes pwrpas breuddwydio am rywbeth nad yw'n bosib)

Dwi heb fod draw yng Nghymru ond mae Elvira wedi bod yn ôl tua phedair gwaith.

Mae'r plant yn enwedig Carol yn dweud nad ydi hi yn gallu deall pam fod ei mam wedi gallu mynd o le mor brydferth i le mor hyll draw.

Roedd fy nhad wastad yn dweud y byddai'n mynd draw rhywdro i ryw ''steddfod ond lwyddodd e ddim. Byddai wedi bod wrth ei fodd dwi'n meddwl, roedd e'n gymaint o Gymro, yn meddwl y byd o'r capel ac yn arwain côr y Band of Hope ac ati.

Wel Elis mi rydach chi wedi edrych ar ôl pob un ohonom ni'r athrawon sydd wedi dod i fyw i'r Ty Capel yn ardderchog. Mae e fel cael tad maeth eich cael chi o gwmpas. Pam ych chi mor dda tuag atom ni?

Yn y dechrau pan ddaeth yr athrawon cyntaf roeddwn i'n meddwl y baswn i ddim yn licio bod mewn gwlad ddieithr lle dwi ddim yn deall na siarad yr iaith.

Roedd pobol yn dod i'r ysgol i ddysgu ond ddim yn dod yn ôl i weld sut oedd yr athrawesau. Felly dyma fi'n meddwl y byddwn yn dod draw i weld fod popeth yn iawn ac i weld petawn i'n gallu helpu mewn rhyw ffordd. Dach chi ddim cymaint â hynny o drafferth!

Beth rych chi'n feddwl fydd dyfodol yr iaith yma Elis?

Dwi ddim yn meddwl y bydd yr iaith yn gallu parhau fel yr oedd hi ers talwm. Mae rhai yn dod i'r ysgol ond yn mynd allan a ddim yn siarad Cymraeg gyda neb tan y wers nesaf. Mae'n nhw'n mynd allan a siarad Spanis yn syth.

Ers talwm roedd pobol i'w clywed yn siarad Cymraeg ar hyd y dre yma.

Beth ydych chi'n feddwl yw'r ateb Elis?

Rhaid i bobol ddod at ei gilydd i siarad Cymraeg yn amlach. Ers talwm roedd pobol yn dod at ei gilydd yn amlach achos roedd y capel yn ganolbwynt i bopeth. Roedd pawb yn siarad Cymraeg yn y capel ac felly roedd pawb yn siarad mwy o Gymraeg drwy'r amser.

Mae pobol yn dod o Gymru ac mae pawb yn siarad Cymraeg gyda nhw felly mae'n bwysig bod y bobol yn dal i ddod o Gymru. Os bydd y bobol yn dal i ddod o Gymru yna bydd y bobol yma yn dal i ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae Cymraeg Elis yn Gymraeg hollol naturiol a gallech ddychmygu ei fod newydd gyrraedd yma ar awyren o Drawsfynydd!

Da chi os byddwch yn dod tua'r Andes rhywbryd, ewch i Gapel Bethel a'r Ty Capel ac fe gewch groeso, sgwrs Gymraeg a llond eich bol o hanes lleol gydag Elis Williams, cymwynaswr o fri.

Erthygl gan Elen Davies.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý