Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Janet a Francis Brodbourn â thystysgrif Prif Fridiwr Anrhydedd i Fridiwr Colomennod
Mawrth 2006
Ar ôl treulio oes yn cadw colomennod sioe, anrhydeddwyd Francis Bradbourn o'r Tymbl gan ei gymheiriaid ym myd y colomennod sioe yn ddiweddar.

Cyflwynwyd iddo statws Prif Fridiwr, yr acolâd uchaf a roddir gan Gymdeithas Genedlaethol y Colomennod.

Cychwynnodd ei ddiddordeb ym myd y da pluog pan oedd yn ifanc iawn. Roedd ei dad - Morgan (Moc) Bradbourn, Heol Tyisha, Y Tymbl, cymeriad lleol adnabyddus, yn cadw caneris mewn adardy ym mhen ucha'r ardd. Teithiai Francis, ac yntau yn ei arddegau, ar ei feic i Felinfoel, Bynea a Llanelli i gwrdd â bridwyr colomennod eraill, Casglodd lawer o wybodaeth trwy drafod gyda hwy a chyn hir gwelwyd ef yn mynd ati i fagu ei haid ei hun.

Mae ef a'i wraig Janet wedi arddangos eu colomennod am dros ddeugain mlynedd mewn gwahanol sioeau yn y D.U. ac wedi ennill y gwobrau uchaf. Gelwir ar Francis i wasanaethu fel prif feirniad gan ymweld â sioeau yn y D.U. ac Ewrop. Bu'n stiward yn Sioe Frenhinol Cymru yn gyson am dros ugain mlynedd a gwahoddwyd ef i feirniadu ym mlwyddyn canmlwyddiant y sioe.

Doedd arddangos y bridiau cydnabyddedig o adar sioe ddim yn ddigon i Francis ac felly, gyda nifer fechan o ffansiwyr colomennod, dyma gyflwyno Colomen Sioe Americanaidd a adnabuwyd fel y golomen 'Frenin' i'r D.U.

Aeth ymlaen i ddatblygu ei ddiddordeb yn y brid drwy ganolbwyntio ar fagu stoc. Bellach cedwir y golomen `Frenin' gan bron pob ffansïwr colomennod yn y D.U. a cheir adran arbennig iddynt ym mhob sioe.

Roedd Eric Davies, Ty Ddewi, Sir Benfro, Llywydd Clwb Colomennod Amrywiol Sioe Abertawe, a chynrychiolydd lleol ar y Gymdeithas Golomennod Cenedlaethol yn dweud ei fod yn falch iawn bod Francis o'r diwedd wedi cael ei gydnabod gan y Gymdeithas am ei wasanaeth hir dymor a'i ymroddiad i fyd y golomen sioe.

Dywedodd, "Ni roddir y gwobrau hyn yn aml ac nid ar chwarae bach y gwneir y penderfyniad i'w rhoi ond roedd yn hen bryd i Francis ei derbyn. Mae pawb ym myd y colomennod ac yn arbennig yng Nghlwb Colomennod Sioe Abertawe wrth eu bodd gyda'r gyda'r anrhydedd a dderbyniodd oddi wrth ei gymheiriaid.

Derbyniodd y wobr mewn cyfarfod o Gymdeithas Genedlaethol y Colomennod yn Rugby yn ddiweddar. Teithiodd Francis a Janet yno i dderbyn y dystysgrif. Yn ei ddull arferol, chwarae i lawr bwysigrwydd yr anrhydedd a wnaeth Francis ond roedd Janet wrth ei bodd gyda'r penderfyniad i gydnabod ymroddiad Francis i'w brif ddiddordeb dros y blynyddoedd.

"Rwyf wedi byw gydag ef am dros ddeugain mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf ar adegau wedi gorfod bodloni ar yr ail safle i'w adar! Pan fydd e'n paratoi i'r sioeau mawr byddai cystal iddo symud ei wely i lofft yr adar o gofio faint o amser mae'n treulio yno. Rwyf mor falch drosto. Mae'n haeddu'r clod. Efallai bydd e'n arafu tipyn nawr - ond rwy'n amau hynny!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý