Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Rhai o aelodau'r côr ar y daith gyda'r arweinydd Caradog Williams ac Eleri Jones y gyfeilyddes Taith côr i'r Ynys Werdd
Mehefin 2006
Taith Côr Meibion Mynydd Mawr i Ddulyn, Pasg 2006.
Yn ystod gwyliau'r Pasg am bum niwrnod rhwng Dydd Mercher y l9eg a Dydd Sul y 23ain o Ebrill mwynhaodd aelodau Côr Meibion Mynydd Mawr, eu gwragedd a ffrindiau'r côr a deithiodd gyda ni drip hyfryd i Ddulyn yn Iwerddon, un o brif ddinasoedd hyfrytaf Ewrop.

Mewn dau goets Cwmni Bysus Brodyr Williams, fe'n cludwyd yn ddiogel gydol y daith, yn gyntaf oll i Gaergybi ar y dydd Mercher lle gwnaethom ddal y fferi cyflym i Dun Laoghaire, ac yna ar y Sul, o gyffiniau Dulyn i Rosslare lle gwnaethom ddal fferi oddi yno am 9.00 o'r gloch yr hwyr ac wedyn yn oriau cynnar bore Llun teithio 'nôl yn ddiogel o Abergwaun i Gwm Gwendraeth. Safasom am bedair noson yng Ngwesty moethus Rocheston Lodge yn Dun Laoghaire gan fwynhau ymweliadau oddi yno yn ôl ac ymlaen i ganol dinas Dulyn.

Ar y dydd Iau, yn ystod y bore buom yn ymweld ag un o'r sefydliadau sydd wedi dod â chryn enwogrwydd i Ddulyn ac Iwerddon ar draws y byd sef y Ffatri Guinness enwog, cartref gwin y gwan sydd â'i flas bob amser yn llawer mwy dymunol yn ei gynefin. Wedi crwydro o gwmpas y ffatri a chael ein tywys drwy hanes y lle a'r broses o gynhyrchu'r Guinness, roedd pawb yn cael esgyn i'r llawr uchaf gan gael y cyfle i flasu gwydriad peint o Guinness neu ddiod ysgafn yn ôl eu dewis, gan fwynhau'r ddiod wrth syllu oddi yno ar olygfeydd panorama a 360 gradd o'r ddinas a'r bryniau o'i chwmpas. Wedi'r ymweliad â ffatri enwog, roedd y prynhawn a'r nos yn rhydd i bawb fwynhau yn ôl eu dewis.

Ar y dydd Gwener, yn ystod y dydd, mewn tywydd braf a gawsom gydol y daith, aethom am daith drwy fynyddoedd Wicklow. Wedi mwynhau golygfeydd o'r wlad a'i harddwch cynhenid dychwelasom i dŷ a gerddi Powerscourt yn Enniskerry am luniaeth ysgafn yn y clwb golff yno. Ni chawsom weld y gerddi na chwarae golff ar y cwrs yno! Ond, wedi gweld y lle a'i leoliad wrth droed y mynydd 'Sugar Loaf', o ymweld â'r lle eto. Mae'n amlwg y bydd eisiau diwrnod llawn yno y tro nesaf.

Uchafbwynt y daith a'r ymweliad oedd y gyngerdd ar y Nos Wener yng nghwmni Côr Meibion Cymraeg Dulyn yn Eglwys Sant Paul yn Glenageary yn Dun Laoghaire. Cymro glan a brodor o'r Hendy oedd arweinydd Côr Dulyn sef Keith Young, ac fe arweiniwyd Côr Meibion Mynydd Mawr gan y brawd Caradog Williams o Borth Tywyn, sef ein harweinydd gwadd ar gyfer y daith. Cyfeilyddion y ddau gôr oedd y brawd John Shera a'r chwaer Eleri Jones o Bontyberem. Uchafbwynt y gyngerdd oedd cael y ddau gôr yn ymuno i ganu 'Gwahoddiad, 'Holy City' yng nghwmni'r soprano Teresa Carley, a 'Morte Criste' cyn gorffen gyda'r anthemau cenedlaethol Hen Wlad Fy Nhadau a Amhran na bhFiann yn gampus iawn yn yr iaith Wyddeleg.

Hyfrydwch pur oedd cael canu i eglwys oedd yn orlawn ar y noson gan gynorthwyo Eglwys Sant Paul i godi arian tuag at Brosiect Ysbyty Kisiizi yn Uganda.

Ar y dydd Sadwrn, roedd y diwrnod yn rhydd gyda'n gyrwyr yn cael y diwrnod i ymlacio. Bu'n rhaid defnyddio'r gwasanaethau lleol i deithio yn ôl ac ymlaen i Ddulyn. Yn hwylus iawn roedd gorsaf fws y tu allan i'r gwesty a modd dal y trên o Dun Laoghaire. Yn naturiol, bu rhai'n siopa, manteisiodd rhai ar y cyfle i ymweld â Phrifysgol Trinity gan weld y Llyfr Kells enwog, un o drysorau cenedlaethol Iwerddon, tra mwynhaodd eraill deithiau o gwmpas y ddinas yn y bysus melyn awyr agored gan fwynhau sylwadau llawn hiwmor y Gwyddel wrth gael eu tywys o amgylch y ddinas.

Yna ar y Nos Sadwrn cawsom fwynhau Noson Lawen Gymraeg a Gwyddelig yng Nghlwb Rygbi Palmerston i'r de o Ddulyn. Yn nhraddodiad y Gwyddelod, er bod y noson yn hwyr yn cychwyn, roedd yn llawn hwyl a chanu afiaethus erbyn y diwedd, gyda'r ddau gôr ac unigolion yn rhoi eitemau un ar ôl y llall, ynghyd â gwrando ar ddigrifwyr yn rhannu jôcs, ac yn eu plith Carwyn Lloyd o Drefach.

Bu'r ddau gôr cyn diwedd y noson yn cyflwyno rhoddion i'w gilydd ac un o'r uchafbwyntiau fydd yn sefyll yn y cof am amser hir, oedd dawn ein harweinydd gwadd Caradog Williams yn trafod y ffidil. Gyda'i gyfeilio meistrolgar ar y ffidil cadwodd y noson i fynd gan lwyddo i greu hwyl neilltuol nad oedd neb o Gôr Meibion Mynydd Mawr na'n cyfeillion o Ddulyn wedi breuddwydio ei gael. Ac megis roeddem yn ddyledus iddo am roi'r fath hyder i'r côr wrth ein harwain yn y gyngerdd y noson cynt, roedd ein dyled a'n hoffter o'i arweiniad a'i gwmni gymaint yn fwy wedi hwyl y Noson Lawen.

Diwrnod i deithio adref oedd y Sul. Wedi gadael y gwesty canol dydd teithiasom i Wexford gan dreulio'r prynhawn yno cyn teithio ymlaen i Rosslare. Wrth gloi'r adroddiad, yn ychwanegol i ddiolch i Caradog Williams ac Eleri Jones, ein harweinydd ar y daith a chyfeilydd y côr, rhaid diolch i Royston Jones a John Williams. Ysgrifennydd a Thrysorydd y côr am eu holl waith yn paratoi a threfnu'r ymweliad. Ac wrth ddiolch am gwmni cyfeillion mor ddymunol ar y daith wedi taith ac ymweliad mor llawn a hapus, gwir y dywedodd y Cadeirydd Emyr Gwyn Evans, wrth ddiolch ar y ffordd adref, 'melys moes mwy'.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý