Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Gwenda Owen a'i merch Geinor "Mae'r Olwyn yn Troi"
Rhagfyr 2003
Ar ôl cyfnod prysur o ganu a chyfansoddi caneuon daeth yn amser i Gwenda a Geinor fynd yn ôl i'r stiwdio i recordio CD newydd. Enw'r CD yw Mae'r Olwyn yn Troi ac mae'n cynnwys deuddeg o ganeuon.

Mae na dinc gwerinol a phoblogaidd i'r CD sydd â rhywbeth i siwtio pawb. Mae'n llawn o ganeuon gwreiddiol ac yn cynnwys trefniant Ar Lan y Môr. Mae hi wedi ei chreu a'i chynhyrchu o'r dechrau i'r diwedd yng Nghwm Gwendraeth.

Mae hefyd yn cynnwys cân sy'n dathlu llwyddiant pobl Llangyndeyrn. Mae'r gân yn sôn am yr ymgyrch i atal boddi Cwm Gwendraeth Fach - enw'r gân yw Cofio Llangyndeyrn, ac mae'n briodol ei bod yn gweld golau dydd yn y flwyddyn lle r'yn ni'n cofnodi deugain mlynedd ers dechrau'r frwydr honno.

Hefyd mae Gwenda wedi bod yn brysur yn ysgrifennu llyfr Ymlaen â'r Gân sydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer. Mae'r llyfr yn sôn am fywyd Gwenda o'i phlentyndod hyd nawr. Magwraeth gyffredin, digon gwledig ar fferm yng Nghwm Gwendraeth, plentyndod cariadus oedd yn llawn o ganu.

Ond, daeth tro ar fyd ac fe ddaeth Gwenda wyneb yn wyneb â gelyn oedd yn barod am frwydr fawr - ac fe frwydrodd hi'n llwyddiannus yn erbyn cancer y fron. Dyma stori afaelgar, deimladwy, hynod o galonogol, am ymdrech merch gyffredin, i oroesi, ond mae hefyd yn stori ysbrydoledig y ferch drws nesaf a ddaeth yn seren canu pop Cymru.

Fe fydd y llyfr a'r CD yn cael eu lawnsio yn swyddogol mewn cyngerdd yn Neuadd Pontyberem am 7.30 Nos Sadwrn, 13eg o Ragfyr. Mae'r pris mynediad yn £4 i oedolion a phlant am ddim.

Yng nghwmni Gwenda a Geinor ynghyd â Gillian Elisa a Ieuenctid o blith Cwmni Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth, mae'n argoeli i fod yn noson fawr! Mae tocynnau ar werth oddi wrth Fenter Cwm Gwendraeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý