Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Gweinidog yn canu clodydd
Mai 2009
Mae'r Gweinidog Chwaraeon, Alun Ffred Jones wedi cyhoeddi bod gan 98% o ysgolion Cymru gynllun 5x60.

Dychwelodd y Gweinidog Chwaraeon, Alun Ffred, i'r ysgol er mwyn cyhoeddi bod 98% o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru wedi cofrestru bellach gyda chynllun gweithgarwch corfforol 5x60.

Wedi'i lansio fis Hydref 2006 ac wedi'i chefnogi gan fuddsoddiad o £7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r rhaglen - a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru - yn ceisio helpu i sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o chwaraeon a gweithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Gwnaed y cyhoeddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle bu'n cwrdd ag ieuenctid o Ysgol Gyfun Brynteg ac Ysgol Arbennig Heronsbridge, a oedd wrth law i arddangos eu sgiliau dawnsio stryd, pêl fasged, rygbi tag a badminton. Nawr bod y rhaglen wedi sefydlu fframwaith 5x60 ym mhob ysgol prif lif yng Nghymru bron, bydd Cyngor Chwaraeon Cymru'n adeiladu ar y momentwm hwn ac yn treialu'r rhaglen mewn ysgolion arbennig, a bydd hynny'n cael ei ymestyn ymhellach yn nes ymlaen eleni. Yn wir, Ysgol Heronsbridge oedd un o'r ysgolion arbennig cyntaf i ddechrau cymryd rhan yn y rhaglen.

Gydag amrywiaeth eang iawn o weithgareddau'n cael eu cynnig - yn cynnwys codi hwyl mewn gemau, gweithgareddau antur awyr agored a chwaraeon mwy traddodiadol - dawns a phêl droed sydd wedi profi fwyaf poblogaidd ymhlith y merched tra bo'r bechgyn yn ffafrio camu ar gae pêl droed a hefyd yn mwynhau pêl osgoi.

Dywedodd y Gweinidog, "Mae'r rhaglen 5x60 yn cysylltu ag ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu ein plant i ddatblygu arferion egnïol, a fydd yn para am oes, ac mae hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at annog disgyblion ysgolion uwchradd i fyw'n fwy egnïol ac iach.

"Nod Un Gymru - yr agenda cynyddol ar gyfer llywodraeth Cymru yw gwella safon byw pobl yn holl gymunedau Cymru. Gan weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, clybiau cymunedol a Chyngor Chwaraeon Cymru, rydym wedi cael effaith sylweddol ar droi neuaddau a buarthau ysgolion yn fwrlwm o weithgarwch, ac mae hynny'n darparu'r cychwyn gorau posibl i'n plant wrth eu hannog i gael digon o ymarfer."

Er bod y cynnydd wedi bod yn dda iawn, nid yw Cyngor Chwaraeon Cymru am laesu dwylo ar ei rwyfau.

Meddai Cadeirydd y Cyngor Chwaraeon, Philip Carling, "Gyda 218 o ysgolion uwchradd prif lif yn rhan o'r rhaglen, a swyddog 5x60 yn cael ei gyflogi ym mhob ysgol er mwyn darparu cyfleoedd allgyrsiol i fod yn heini, dyma'r amser i symud ymlaen. Un elfen allweddol o 5x60 yw bod y disgyblion eu hunain yn dewis y gweithgareddau maen nhw eisiau rhoi cynnig arnynt."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý