鶹Լ

Y wers rydd gynganeddol

Mae cerddi yn y wers rydd gynganeddol yn wahanol i weddill mesurau caeth y cwrs Llenyddiaeth Gymraeg. Mae gan y mesurau eraill strwythur pendant.

Edrycha ar yr enghraifft isod o gerdd Gerallt Lloyd Owen Etifeddiaeth:

Dyfyniad o'r gerdd 'Etifeddiaeth' gan Gerallt Lloyd Owen.

Sut mae adnabod wers rydd gynganeddol?

  • Nid oes trefn arbennig i’r odli nac i nifer y sillafau.
  • Nid oes strwythur penodol i bob pennill.
  • Ond, mae cynghanedd ymhob llinell.
NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd“gwerth cynnydd yw gwarth cenedl / a’i hedd yw ei hangau hi.”Mae’r gynghanedd yn effeithiol yn y pennill hwn oherwydd mae ailadrodd y cytseiniaid caled yn cyfleu dicter y bardd tuag at y Cymry, tra bod y sŵn tawel a geir yn y llinell olaf yn adlais o'r gwacter a fyddai ar ôl pe bai Cymru yn cael ei llyncu gan ddiwylliannau eraill.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad“gwerth cynnydd yw gwarth cenedl / a’i hedd yw ei hangau hi.”
EffaithMae’r gynghanedd yn effeithiol yn y pennill hwn oherwydd mae ailadrodd y cytseiniaid caled yn cyfleu dicter y bardd tuag at y Cymry, tra bod y sŵn tawel a geir yn y llinell olaf yn adlais o'r gwacter a fyddai ar ôl pe bai Cymru yn cael ei llyncu gan ddiwylliannau eraill.