鶹Լ

Englynion

Mae englynion yn hawdd eu hadnabod am eu bod yn edrych yn wahanol i benillion arferol.

Edrycha ar yr enghraifft isod o englyn unodl union Dic Jones Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed:

Diagram i arddangos strwythur englyn unodl union.

Sut mae adnabod englyn unodl union?

  • Mae englyn yn cael ei rannu’n ddwy.
  • Paladr yw’r enw ar y ddwy linell gyntaf.
  • Esgyll yw’r enw ar y ddwy linell olaf.
  • Ceir pedair llinell o gynghanedd.
  • Mae deg yn y llinell gyntaf, chwe sillaf yn yr ail linell, saith sillaf yn y drydedd linell a saith sillaf yn y llinell olaf.
  • Un prif odl sydd - cyn y gwant ac ar ddiwedd pob llinell arall.

Beth yw effaith y gynghanedd yn y gerdd hon?

NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd“Deunaw oed yn ei hyder, - deunaw oed / Yn ei holl ysblander, / Dy ddeunaw oed boed yn bêr, / Yn baradwys ddibryder.”Mae’r gynghanedd yn effeithiol yma am fod Dic Jones wedi ysgrifennu’r gerdd hon i’w ferch ar achlysur ei phen-blwydd yn ddeunaw. Mae’r gofal y mae wedi ei gymryd dros lunio cerdd gaeth fel hon yn pwysleisio pwysigrwydd yr achlysur i’r bardd a’r berthynas agos sydd rhyngddyn nhw.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad“Deunaw oed yn ei hyder, - deunaw oed / Yn ei holl ysblander, / Dy ddeunaw oed boed yn bêr, / Yn baradwys ddibryder.”
EffaithMae’r gynghanedd yn effeithiol yma am fod Dic Jones wedi ysgrifennu’r gerdd hon i’w ferch ar achlysur ei phen-blwydd yn ddeunaw. Mae’r gofal y mae wedi ei gymryd dros lunio cerdd gaeth fel hon yn pwysleisio pwysigrwydd yr achlysur i’r bardd a’r berthynas agos sydd rhyngddyn nhw.