Â鶹ԼÅÄ

Ymarfer

Darllena y darn canlynol a cheisia ateb y cwestiynau sy’n dilyn.

Celu a chelu ei phryder a wnâi Mared o ddydd i ddydd, rhag ychwanegu at yr holl annifyrrwch ar yr aelwyd. Ond roedd gohirio’r annymunol cyhyd ynddo’i hun yn ychwanegu’n ddiangen at bryder oedd eisoes wedi mynd â’r holl liw o’i gruddiau a rhoi cleisiau duon o dan ei llygaid. Roedd y croen o boptu’i thrwyn wedi tynhau a’i hwyneb yn feinach nag y bu. Wrth y bwrdd ni wnâi fwy na phigo’r bwyd oddi ar ei phlât.

Daeth pethau i ben un bore Llun, yr unfed ar ddeg o Fawrth, ar ôl Sul o bendroni ac atgofio, o ddychmygu ac arswydo. Dyna ddrwg dydd Sul, roedd yn ddiwrnod mor swrth a’i oriau’n llusgo.

Roedd y penderfyniad wedi’i ffurfio’n derfynol yn ystod oriau effro’r nos a phan ddaeth Mared allan i ben y grisiau cerrig drannoeth gyda’r ychydig lestri budron yn ei dwylo a gweld Mam yn cymell yr ieir i bigo ar glwt di-eira o’r buarth, dyma ymwroli. Roedd Robin yn siŵr o fod yn ddigon pell o’u clyw.

‘Tri mis? Tri mis ddeudist ti?’

Eiliadau o syllu anghrediniol a’r ferch, o’r diwedd, yn gostwng ei golygon yn gyndyn euog.

‘Tri mis? Lle uffar wyt ti ’di bod na fasat ti ’di deud wrtha i’n gynt?’

‘Peidiwch â gweiddi Mam.’ Llais tawel, edifeiriol. ‘Pa wahaniaeth pe bawn i wedi deud ynghynt?’ Roedd tri blewyn y ddafaden yn plycio’n ffyrnig.

‘Gwahaniaeth, ddeudist ti? Pa wahaniaeth? Fedri di ofyn cwestiwn mor dwp?’ Yn hytrach na gostwng ei llais roedd hi’n gweiddi mwy. ‘Yli, anodd fydd petha rŵan!’

Teimlodd Mared beth o’r euogrwydd yn ei gadael wrth deimlo’r angen i’w hamddiffyn ei hun.

‘Wel, deudwch y gwir. Fasa fo wedi gneud rhywfaint o wahaniaeth? Fis, dau fis yn ôl, gwylltio fel hyn fasach chi wedi’i neud ’run fath yn union, fel pe baech chi’ch hun yn gwbwl ddihalog.’

‘Paid ti â chodi dy lais ata i, yr hoedan fach! Nac edliw! Na defnyddio dy eiria ffansi chwaith. Ti’n gwbod be ’di dy wendid di wedi bod erioed, yn dwyt?’ Roedd ei llais wedi codi’n sgrech bron. ‘Rhy barod i ledu dy goesa’r butan fach!’

Ffrwydrodd Mared hefyd. ‘Peidiwch chi â ’ngalw i’n butan.’

‘Be arall wyt ti ond hwran? Sgin ti syniad pwy ydi’r tad! Nag oes ma’n siŵr.’ ‘Putan? Hwran? Pwy uffar ’dach chi i siarad ac i daflu’ch bustul?’

Daeth sŵn drws y llofft stabal yn cael ei ysgwyd a chododd ton o grochlefain dig ond roedd y ddwy yn fyddar iddo.

‘A ’dach chi’n gofyn pwy ydi’r tad? Wel, hwyrach y bydd raid i ’mhlentyn inna alw’i dad yn Dewyrth ne rwbath felly hefyd!’

‘Gan bwyll, y gnawas!’ Roedd llygaid yr hen wraig yn melltennu a’i cheg yn glafoerio. ‘Mesur dy eira’n well! Pwy ydi o?’ Ac yna’n ddistawach, yn fwy petrus, ‘Yr un un ag o’r blaen?’

Chwarddodd Mared yn wawdlyd. ‘Mi fasach chi’n licio gwbod yn basach?’

‘Atab fi’r munud ’ma! Ydi o’n perthyn iti?’

Roedd y drws uwch eu pennau’n cael ei ysgwyd yn lloerig a’r crochlefain wedi troi’n un waedd ofidus, hir. Sobrodd Mared drwyddi a gostyngodd ei llais.

‘Yn perthyn imi? Falla’i fod o. Falla’n wir ’i fod o.’

Ni chlywodd Robin ymateb olaf ei chwaer ond bu yno wrth dalcen cwt y tractor yn ddigon hir i ddeall beth oedd yn digwydd. Gwelodd ei fam yn brasgamu’n ffyrnig yn ôl i’r tŷ a Mared yn llusgo’i thraed ar ei hôl.

‘Y Sais uffar!’ sgyrnygodd, a chryndod ei dymer, yn gymysg ag oerni’n meirioli, yn rhedeg drosto. ‘Aros di i mi gael gafal arnat ti.

Question

Crynhoa ymwneud Mared gyda dynion, yn y gorffennol a’r presennol.

Question

Trafoda pam y mae Mared wedi penderfynu dweud wrth ei mam ei bod yn feichiog.

Question

Sut mae’r awdur yn cyfleu teimladau cryf Mam a Mared ac yn creu tyndra yn y darn?

Question

Dychmyga fod Mam (fel Mared) yn cadw dyddiadur a llunia ddau ddarn o ddyddiadur ar ei chyfer yn sôn am ddigwyddiadau dau ddiwrnod gwahanol (ar wahân i’r darn a ddyfynnir) er mwyn cyfleu ei hymateb iddyn nhw.

Dylet seilio’r darn ar wybodaeth sy’n cael ei rhoi neu ei hawgrymu yn y nofel am ymateb Mam i’r digwyddiadau hyn, ond gan ddefnyddio dy ddychymyg er mwyn llenwi’r darlun.