鶹Լ

Themâu - euogrwydd

Mae’r thema hon yn mynd law yn llaw â thema twyll. Mae dau o’r prif gymeriadau’n poeni oherwydd pethau y maen nhw wedi eu gwneud neu eu dweud ac mae’r pryder hwnnw yn taflu cysgod dros eu bywydau.

Sut mae thema euogrwydd yn cael ei dangos yn O Ran?

Mae thema euogrwydd yn cael ei dangos yn O Ran drwy:

  • anhapusrwydd Angharad
  • alcoholiaeth Ifan
  • ymddygiad Ifan

Anhapusrwydd Angharad

Sut mae’r nofel yn dangos hyn?

Wrth dyfu’n hŷn, mae Angharad yn dysgu bod teimladau negyddol yn aml yn dilyn gwneud rhywbeth o’i le. Mae’n poeni cymaint am dwyllo yn y dosbarth (helpu’r bechgyn gyda’u syms) nes ei bod yn mynd yn sâl. Mae’n poeni ei bod hi rywsut wedi bod yn gyfrifol am farwolaeth ei ‘mam’ (wrth gael ei geni), Myfanwy’r crwban (fel cosb am feddwl bod Myfanwy’n hyll) ac yna Anti June (am ymddwyn yn ansensitif gyda hi wrth siopa).

Tystiolaeth

“Am fy mod wedi bod mor hunanol â gwneud y fath ddolur i Anti June, roedd Anti June wedi mogi. Angharad Gwyn. Llofrudd. Llofrudd Mam.”

Dadansoddiad

Mae Angharad yn clywed lleisiau yn ei phen yn ei cheryddu ac yn raddol daw i ddeall mai lleisiau ei chydwybod ydyn nhw. Mae cydwybod yn beth normal ac yn beth da sy’n cadw pobl rhag camymddwyn, ond mae Angharad yn berson mor sensitif nes ei bod yn mynd i gredu mai hi, rywsut, sy’n gyfrifol am bopeth drwg sy’n digwydd yn ei bywyd. Mae’n gadael i deimladau o euogrwydd, a’r rheiny’n ddi-sail yn aml, fynd yn drech na hi. Ond ar ddiwedd y nofel mae awgrym cryf ei bod yn llwyddo o’r diwedd i ddistewi’r lleisiau ac am symud ymlaen i gyfnod newydd yn ei bywyd.

Ymddygiad Ifan

Sut mae’r nofel yn dangos hyn?

Nid yw’r nofel yn cynnig dadansoddiad o gyflwr Ifan na’r rhesymau dros ei yfed a’i iselder (gan mai portread ohono trwy lygaid plentyn a gawn). Ond gallwn ddyfalu ei fod yn teimlo’n euog ynghylch y ddwy enghraifft o dwyllo teuluol y mae wedi bod ynghlwm â nhw. Mae mwy am hyn ar y dudalen am thema twyll. Ond hefyd ceir awgrym ei fod yn poeni nad yw’n gerddor cystal ag y mae pawb yn meddwl ydyw a’i fod yn teimlo’n euog am fyw celwydd yn yr ystyr yma hefyd.

Tystiolaeth

Mae tôn ei bennod o hunangofiant ar gyfer y gyfrol deyrnged yn negyddol iawn:“‘Nid wyf i’n arwr, nac yn athrylith ... Nid wyf i chwaith yn dad.”

Dadansoddiad

Yn y bôn mae’n ymddangos mai teimlad cyffredinol o fod yn fethiant – yn ei fywyd personol a’i fywyd proffesiynol – yw problem Ifan. Mae wedi gadael i’w deimladau negyddol ei lethu, yn hytrach na’u hwynebu – yn wahanol i Angharad.